Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arsyllu ar ben ol y tren. Agorid ffenestri, rhoddid pennau allan, a gofynnai aml un y cwestiwn, " A ydym ni'n agos?"

Gwyddent fod Rhaeadr Victoria yn ymyl, ac wrth gwrs yr oedd pawb am ei weled.

"Dewch ar unwaith i'r ffenestr yma," meddai rhywun wrth Mair; a dangosodd iddi rywbeth ymhell draw y tuhwnt i bennau'r bryniau. Edrychai fel colofn fawr o ager gwyn yn codi'n uchel i'r nefoedd.

"Yr ewyn o'r Rhaeadr yw," meddai.

Safai Mair ar y llwyfan pan arafai'r tren wrth ddynesu tuag ato. Disgynnai'r ewyn fel glaw man, a chollwyd swn y tren yn rhu dwfn y Rhaeadr. Yn araf iawn yr ai'r tren drwy'r bwlch mawr a dorasid yn y graig, a phrin y symudai wrth fynd dros y bont a daflesid dros y ceunant mawr. Nid allai neb siarad; edrychent a rhyfeddent. Cwympai yr afon fawr dros ddibyn serth, a lle y cwympai cyfodai'r ewyn gwyn fel ager gan orchuddio'r goedwig a rhoddai goleu'r haul liwiau'r enfys ymhob diferyn.

Croeswyd y bont ac aeth y tren ymlaen gan gyflymu o hyd ac aeth rhu'r dwfr yn wannach wannach. Mair gan edrych yn ol a meddwl am y dyn gwyn cyntaf a aethai ar hyd y ffordd honno a thrwy goedwigoedd Canol Affrica. Dim ond ychydig filltiroedd eto a byddai'r daith yn y tren ar ben, a da oedd