Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganddynt oll am hynny. Awr cyn toriad dydd codasant o'u gwelyau i wneud eu hunain yn barod. Ni welid dim drwy ffenestri'r tren, dim ond y seren fore yn yr wybren eang. Arhosodd y tren er nad oedd gorsaf i'w gweld.

"Neidiwch!" meddai rhywun wrth Mair, a chafodd ei hun ar lawr ynghanol tyrfa o rai ereill, a'r rhai hynny yn siarad yn ddibaid mewn iaith ddieithr. Gwelodd ddodi'r cistiau allan, gwyddai fod cenhadon ereill gerllaw, ond ni welai ddim. Aeth y tren gan eu gadael yno. Cariai rhywun lusern o'u blaen, a dilynasant hwythau hi, a dynion ar bob tu iddynt yn rhedeg gan guro eu dwylaw a dywedyd,

"Mwapoleni Mukwai, Mwapoleni." Deallodd Mair mai cyfarchiad oedd hwn a cheisiodd ei ddywedyd.

Siaradai'r cenhadon ereill a'r dynion a redai wrth eu hymyl. Gwyddent hwy'r iaith.

Erbyn hyn yr oedd y wawr yn torri ac edrychai Mair o'i chylch mewn syndod. Yr oedd yno gannoedd o ddynion, heb ond ychydig iawn o ddillad am danynt, dim ond lliain neu ddarn o groen am eu canol. Y rhai hyn oedd ei phobl hi, trigolion gwlad y coedwigoedd.

Casglesid y dynion hyn gan y cenhadon yn y gorsafoedd cenhadol, a danfonasid hwynt i gwrdd a'r tren. Cerddasent am dair wythnos gan gysgu'r nos yn y goedwig, gan groesi afonydd a gwastadeddau