Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nes cyrraedd Ndola, ac yno arosasent am y tren. Yn awr yr oeddent yn barod i gychwyn yn ol ond nid yn waglaw. Daethent yno er mwyn cludo cistiau'r cenhadon a chludo'r cenhadon eu hunain hefyd; oherwydd drwy'r rhan hon o'r goedwig nid oedd tren, dim ffyrdd hyd yn oed, dim ond llwybr. Y noson honno cysgodd Mair mewn pabell am y tro cyntaf yn ei hoes a chysgodd yn drwm oherwydd ei bod wedi blino. Yr oedd gan bob un o'r deucant a hanner o ddynion ei lwyth i'w gario,—rhai gistiau, rhai faddonau, rhai gadeiriau a byrddau, a rhai bethau ereill.

Yr oedd rhai o'r cistiau yn rhy drymion i un dyn eu cludo, rhaid oedd i ddau gludo un bocs, a gwenai Mair wrth weld eu dull o wneuthur hynny. Ceisient ddarn hir o gangen o'r goedwig, gwnaent reffyn cryf o risgl pren, a chylyment y bocs trwm yn ddiogel wrth y gangen. Yna gafaelent un ymhob pen a gosodent ef ar eu hysgwyddau a chychwynent felly, y bocs yn siglo yn ol a blaen ar ganol y pren. Dewiswyd dynion cryfion i gludo Mair, a disgwyliai hi yn eiddgar am y bore er mwyn dechreu'r daith. Llosgai tan coed o flaen y babell drwy'r nos. Cyn mynd i gysgu safodd Mair am ennyd wrth ddrws y babell, a syllodd ar yr wybren. Yn union uwch ei phen gwelai Groes y De. Gwelsai hi hefyd pan oedd ar y mor, clwstwr o bedair seren ar ffurf croes—a