Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Nid ni a'i taflodd hi allan," meddai un o'i chludwyr wrth y lleill.

Na, syrthio allan ei hunan a wnaeth," meddai'r llall; "rhaid iddi fod yn llonydd."

Er na ddeallai Mair eu geiriau dysgodd wers gyntaf teithio gyda'r machila,—fod yn rhaid gorwedd yn llonydd.

Aeth i mewn eto. Gorweddodd gan syllu ar y coed tal, a gobeithiai nad oedd ei ffrindiau ymhell iawn o'i blaen. Yn sydyn clywodd rywun yn gwaeddi: Helo! Sut y mwynhausoch chwi'ch taith gyntaf yn y machila?"

Mor hyfryd oedd clywed ei hiaith ei hun unwaith eto! A dyna olygfa hyfryd oedd o'i blaen! Yr oeddent ar lan afon hardd heb fod yn un ddofn iawn, oherwydd yr oedd rhai o'r dynion yn eistedd ynddi. Yn y cysgod yr oedd bwrdd wedi ei osod, gerllaw yr oedd tân a dau neu dri o'i gwmpas yn coginio rhywbeth arno. Ymhen ychydig funudau yr oedd y pryd bwyd yn barod, ac O! yr oedd yn dda. Sausages o lestr alcan, llaeth o lestr alcan arall, biscuits, jam, a choffi. Wedi gorffen a gorffwys ychydig golchwyd y llestri, dodwyd hwy'n ol yn y bocs, cymrodd y dynion eu llwythi ac ymlaen a hwy drachefn.

Cymrwch ofal!" gwaeddai Mapoma. Daeth y lleill o gylch y machila wrth fynd i lawr at yr afon, i'w gadw yn ddiogel. Teimlai Mair na flinai lawer pe