Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gadawent iddi syrthio allan. Edrychai'r afon mor hyfryd oer. Nid oedd gan y brodorion nac esgidiau na hosanau i'w diosg, na dim dillad i ofni eu gwlychu. Yr oeddent hyd at eu canol yn y dwr. Ni wnai lawer o wahaniaeth iddynt bod y llieiniau a wisgent yn wlyb: sychai'r rhai hynny yn fuan yn yr haul. "Mwe Bantu (Cadwn gyda'n gilydd)," gwaeddai Mapoma, "yr ydym yn nesau at bentref." Felly cerddent, y naill ymlaen a'r llall y tu ol, yn cludo, a phedwar ar bob ochr i'r machila.

"Gadewch i ni ganu," gwaeddai un.

"Bantu bakwa Nani? (Pobl pwy ydym?)," canai Mapoma.

"Bantu bakwa Mamu Sho (Pobl Mamu Sho)," canai'r llall mewn ateb.

"Ku Mbereshi (Awn i Mbereshi)," canai Mapoma eto.

Kumwesu Ku Mbereshi (I'n cartref i Mbereshi)," atebai'r lleill.

Felly y canent, Mapoma ynghyntaf a'r lleill yn ateb, nes dod hyd at y pentref.

"Leteni menshi bamayo (Dewch a dwr i ni)," gofynnai un o'r dynion: ac aeth dwy neu dair o'r gwragedd i'w tai a daethant allan a llestri llawn o ddwr. Arhosodd y dynion ac yfasant, oherwydd yr oeddent yn sychedig iawn.