Tudalen:Plant y Goedwig.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Canasant eto wrth adael y pentref—tôn wahanol y tro hwn:

Canodd Mapoma y llinell gyntaf, ac ymunodd y lleill yn y cytgan.

Daethant yn fuan at afon arall, un ddofn iawn, ac arhosodd y dynion heb wybod pa beth i'w wneud. Pa sut y dywedent wrth y Fama fod yn rhaid iddi ddod allan a cherdded drosodd? Yr oedd y dynion gwynion ereill wedi mynd ymlaen. Dywedodd Mapoma y ceisiai ef roi ar ddeall iddi.

Plygodd at y machila a dywedodd:

"Mukwai—bulalo—imeni." (Mama—pont—dewch allan.)

Edrychodd Mair arno gan ysgwyd ei phen.

Dywedodd drachefn: "Bulalo menshi — imani mukwai."

Y tro hwn cyfeiriodd at rywbeth.

Daeth Mair allan. Gwelodd afon ond ni welodd bont. Beth bynnag, cerddodd i lawr at yr afon drwy goed oedd mor dal ac agos at ei gilydd nes cau