Tudalen:Plant y Goedwig.pdf/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorweddai'r pentref dan wenau disglair haul y prynhawn a mwg yn esgyn o bob un o'r tai, oherwydd daethai'r gwragedd adref o'u gerddi ac yn awr paratoent eu hwyrbryd. Deuai swn cyfarwydd y pentref tuag ati, y chwerthin a'r bloeddio a'r brefu, a swn dyfal y malu fel cynt.

"Kabwe!"

Gwaeddodd Magi yn uchel gan edrych drwy un o heolydd hir y pentref. Dyna un hir oedd! Nid oedd Kabwe yno. Diau mai ar yr heol arall oedd hi, yr heol a arweiniai at yr afon, oherwydd hoffai'r plant gyd chwarae wrth yr afon.

"Kabwe-e!" Galwodd eto, ac o'r pellter obry lle sisial-ganai'r afon ar ei thaith drwy goedydd mawrion a rhedyn tal, daeth geneth fach allan ar hanner ei chwarae a rhedodd i fyny tua'r ty. Rhedai mor gyflym 'nes o'r braidd y cyffyrddai ei thraed noeth â'r ddaear. Gwelai Magi hi'n dod, ysmotyn bychan du yn y pellter. Arhosodd gan edrych ar y pentref, a thuhwnt iddo ar y goedwig fawr. Yr oedd yr haul ar fynd o'r golwg yn y gorllewin a'i oleu claer bron a'i dallu. Trodd eto tua'r dwyrain gan edrych dros y gwastadedd lle y chwaraeai'r bechgyn, a lle'r oedd dynion yn brysur yn gyrru'r defaid, a'r geifr i'w corlannau. Llenwid yr awyr gan gwmwl mawr o lwch, y gwartheg lluddedig oedd yn dod adref. Edrychodd i lawr at eu corlan fach hwy eu hunain