Tudalen:Plant y Goedwig.pdf/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai sospanau ar eu pennau, rhai ffrwythau, rhai sacheidiau o flawd, a rhai barseli o bysgod neu gig.

"Gadewch i ni ganu," gwaeddai Mapoma, a tharawodd y polyn mor drwm nes i'r un a orweddai yn yr hamoc frawychu.

"Shibuka, mama, Shi—buka (Dihunwch, mama, dihunwch)," gwaeddai, gan daro'r polyn eto.

"A yw hi yn cysgu?" gofynnai un o'r dynion. gan blygu i edrych. Edrychodd ar Mair a hithau arno yntau, y ddau heb fedru dweyd dim wrth ei gilydd.

Gofynnai. Mair iddi ei hun o hyd a oedd y cyfan yn wir, canol Affrica, yn y goedwig, a'r dyn talgryf croenddu yma o bentref Mbereshi, gwlad ei dymuniad hi? Hiraethai am fedru siarad ag ef, ond nis medrai, felly gwenodd arno.

"Aseka—Aseka (Mae'n gwenu)," gwaeddai hwnnw gan chwerthin yn uchel. Daeth y lleill yno i gyd i'w gweld yn gwenu.

Blinodd Mapoma ymhen tipyn a galwodd ar un o'r lleill i gymryd ei le. Weithiau aent heibio i ereill o'r cwmni. Gwelodd Mair rai o'i chistiau a'i bath yn mynd heibio, ac ni allai lai na gwenu. Yr oedd popeth mor ddieithr a digrif. Cyn hir aeth y gwres yn llethol iddi, blinodd orwedd ar ei chefn, felly trodd, ac heb yn wybod cafodd ei hun ar lawr. Cododd yn araf gan edrych yn syn ar y dynion.