Tudalen:Plant y Goedwig.pdf/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allan oleu'r haul. Hedai adar o bob lliw uwch ei phen. A daeth swn arall o bennau'r coed, fel swn gwichial a chwerthin.

"Bakolwe," ebe Mapoma, gan edrych i fyny. Edrychodd Mair hefyd, a gwelai fwncïod bychain yn neidio o gangen i gangen, gan alw ar ei gilydd. Chwarddodd y dynion a chwarddodd Mair gyda hwy. Daethant at yr afon. Yn lle pont nid oedd yno ond bôn pren yn ymestyn o lan i lan. Dringodd y dynion arno, a'u llwythi ar eu pennau, ac aethant drosodd yn ddiofn. Nid oedd croesi yn beth mor hawdd i Mair. Dringodd i fyny, ond eisteddodd yn sydyn. Rhoddai golwg ar yr afon wyllt odditani y bendro iddi. Penderfynodd eistedd ar y pren, fel pe'n marchogaeth ceffyl, a symud ymlaen yn raddol, gan bwyso ar ei dwylaw. Gwenodd y dynion pan welsant pa beth a fwriadai wneud, a chwarddasant yn uchel dan guro'u dwylaw tra bu hi'n croesi.

Cyn hir daeth pentref arall i'r golwg. Yr oedd y dynion yn llawn cyffro ymhell cyn ei gyrraedd. "Yma y byddwn yn aros dros y nos," meddai un o'r cenhadon wrth Mair, gan redeg yn frysiog heibio iddi.

Ychydig y tu allan i'r pentref gosodwyd y pebyll i lawr. Yr oedd popeth mor newydd i Mair fel na allai wneud dim ond eistedd a gwylio'r lleill yn gweithio. Rhedai'r dynion i mewn a'u llwythi, yn flinedig a llychlyd ond yn hapus, am fod taith y dydd