Tudalen:Plant y Goedwig.pdf/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ben. Yr oedd rhai bechgyn yn y pebyll yn gosod fyny'r gwelyau, ereill yn paratoi bwyd ac yn rhoi'r bwrdd yn barod. Cyraeddasant i gyd o'r diwedd,—y Kapitao yn olaf, a'i ddryll ar ei ysgwydd.

"Nyetetu mbafu?" ebe un o'r bechgyn wrth Mair, gan aros am ei hateb.

"Gofyn y mae a hoffech chwi iddo roi eich bath yn barod," esboniai'r cenhadwr.

"O, hoffwn yn wir," ebe Mair, ac ymhen ychydig funudau cafodd y bath yn ei phabell yn llawn o ddwr cynnes hyfryd. Pan ddaeth allan drachefn yr oedd y dynion i gyd wedi mynd i chwilio am goed tan. Dychwelasant yn fuan â beichiau trymion.

Daeth cenhadwr ati a dywedodd: "Rwyf i'n mynd i gynnal gwasanaeth byrr yn y pentref. A hoffech chwi ddod?"

Nid oedd eisieu gofyn ddwywaith. Aethant i dy'r pennaeth a gofynnodd y cenhadwr am ganiatad i alw'r bobl at ei gilydd. Cytunodd y pennaeth, a pharodd alw'r bobl ynghyd. Daethant yn llu, hen ac ieuanc.

Eisteddodd y dynion ar un ochr, y gwragedd ar yr ochr arall, a'r plant y tu ol iddynt. Rhoddodd y cenhadwr emyn allan i'w ganu. Ymunodd Mair yn y canu er na fedrai ddweyd y geiriau. Yna wedi gweddio siaradodd y cenhadwr â'r bobl, a gwyddai Mair ei fod yn dweyd wrthynt am y Tad a ofalai am danynt hwy ac am bawb,—pobl wynion a duon fel el