Tudalen:Plant y Goedwig.pdf/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gilydd. Edrychai'r gwragedd yn syn arni a rhyw olwg hiraethus yn eu llygaid, ac edrychai Mair arnynt hwythau heb eto fedru dweyd ei neges fawr wrthynt.

Pan aethant yn ol i'r gwersyll, gwelent lawer o danau bychain yma a thraw,—y dynion oedd yn coginio swper iddynt eu hunain. Gwnaent uwd o'r blawd a gludent, a berwent ychydig gig neu bysgod i'w fwyta gydag ef.

Cyneuwyd tanau o gylch y gwersyll, ac un tan anferth o'i flaen. Dyna dan! Cyrhaeddai y fflamau cyn uched a brigau'r coed. Safai'r pebyll yn y cysgod, a'r coed yn nisgleirdeb y tanau. Edrychai'r cyfan fel gwlad hud.

Gwenai'r ser yn yr wybren a Chroes y De yn union uwch eu pen o hyd. Wedi gorffen eu swper, ymgasglodd y dynion yn hanner cylch o flaen y tan mawr. Eisteddodd y cenhadon hefyd a rhoddwyd emyn allan i'w ganu:

"O aros gyda mi, y mae'n hwyrhau "

Canai Mair yn ei hiaith ei hun, ac O! hyfryted oedd meddwl fod Duw yno ynghanol y goedwig fawr lle y crwydrai'r bwystfilod gwylltion, yn eu gwylio a'u cadw hwy. Wedi canu'r emyn, darllenodd y cenhadwr ychydig o adnodau, a gofynnodd i un o'r dynion weddio, ac mor rhyfedd y swniai ei eiriau ar glustiau Mair!