Tudalen:Plant y Goedwig.pdf/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Shaleui po mukwai (Nos da Mam)," meddai pob un wrth fynd yn ol at ei dân. Paratoisai pob un wely iddo'i hun o ddail esmwyth, ac yno o flaen eu tanau mwynhasant eu cwsg melys.

Aeth y lleill i'w pebyll yn fuan. Gadawodd Mair ddrws ei phabell hi yn lled agored er mwyn edrych ar y tan siriol a'r ser. Buan ni chlywid dim namyn llef ambell aderyn nos, neu gri pell rhyw fwystfil, a' chleciadau'r tanwydd wrth losgi.

"Chiughi," galwai un o'r dynion ar ei gyfaill, a gwrandawodd y ddau. Clywodd y lleill y swn hefyd. "Nkalamo!" meddent.

"Maent yn ddigon pell," meddai un oedd yn ddigon cyfarwydd â lleisiau'r goedwig. Cysgasant drachefn, ond nis gallai Mair gysgu mor hawdd. Clywsai hithau'r chwyrnu pell a gwyddai mai llew oedd. A ddeuai yn nes? Nid oedd pabell yn lle diogel iawn wedi'r cyfan. Gwelodd y tân, a daeth adnod i'w chof: "Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef," a chysgodd hithau'n dawel.

Cyn toriad dydd yr oedd pawb ar eu traed ac yn paratoi at ddydd arall o deithio.

Yr oedd pob dydd yn llawn digwyddiadau cyffrous. Dysgodd Mapoma lawer o eiriau i Mair. Cyn pen ychydig amser medrai ddweyd wrth y dynion am aros, medrai ofyn am ddwr, a holai o hyd, "Beth yw hwn?" a "Beth yw hwnyna?" Deallodd Mapoma ei bod yn