Tudalen:Plant y Goedwig.pdf/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hoff o flodau, a phan na fyddai yn cludo, ai i edrych am flodau iddi, ac yr oedd y machila fynychaf yn llawn o honynt. Dangosodd iddi dwmpathau morgrug, y palmwydd, olion y llewod a'r llewpartiaid a'r ani— feiliaid gwylltion ereill.

Dywedodd wrthi enwau'r pentrefi yr aent drwyddynt, a cheisiodd siarad â hi am Mbereshi, ond methai Mair a'i ddeall.

Un dydd croesasant afon Luapula mewn badau bychain. Cymrodd ddydd cyfan iddynt gael yr holl garafan drosodd. Ddiwrnod arall aethant drwy bentref lle'r oedd dau ddyn gwyn yn byw. Un o orsafoedd y Llywodraeth ydoedd. Arosasant yno ddiwrnod cyfan.

Y dydd olaf o'r daith oedd y mwyaf cyffrous o'r cwbl. Dim ond tair milltir ar hugain oedd i Mbereshi. Cododd. y dynion yn foreuach nag arfer ar y dydd hwnnw, gan gymaint eu brys i fynd. Canent yr holl ffordd a gorweddai Mair yn ddistaw yn y machila. Yr oedd ar fin cyrraedd y lle oedd i fod yn gartref iddi, y bobl oedd i fod yn bobl iddi, a'r plant bychain yr oedd hi i'w dysgu. Am y dydd hwn yr hiraethasai ar hyd y blynyddoedd. Diolchodd i'r Iesu am fod gyda hi, ac erfyniodd am ei gwmni yn y dyfodol, oherwydd hebddo ef ni allai hi wneuthur dim.

"Mwapoleni Batata—cyraeddasoch yn ddiogel."