Tudalen:Plant y Goedwig.pdf/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nifer o fechgyn bychain oedd yno, heb ddim ond crysau bychain gwynion glan am danynt, yn dod i gwrdd a'r carafan. Mab bychan Mapoma oedd un ohonynt. Holent y dynion yn ddibaid am y Fama newydd. Daeth ereill, gwyr a gwragedd, i'w cyfarfod fel y dynesent at y pentref, a mynnai pob un gael cip ar Mair nes gwneud iddi deimlo'n swil iawn. O ben bryn cafodd olwg ar lyn yn y pellter. Dywedodd Mapoma wrthi mai Llyn Mweru oedd—un o'r llynnoedd y dysgasai hi eu henwau yn yr ysgol ers llawer dydd.

O hynny ymlaen, mawr oedd y swn a'r rhuthr. Rhedai'r dynion ac arosasant yn sydyn. Tynnodd llaw wen y cynfas yn ol,—yr oeddent wedi cyrraedd, a dyma wraig un o'r cenhadon a phedwar o blant bach gwynion yn edrych arni, yn ei chroesawu! O mor dda oedd ganddi eu gweled!

Aeth i mewn i dy'r cenhadon fel mewn breuddwyd. O feranda ar y llofft edrychodd i lawr ar y dyrfa a ddaeth yno i'w chroesawu. Curodd ei dwylaw fel y gwnaent hwy, a gwaeddodd "Mwapoleni," a chafodd fanllefau o gymeradwyaeth. Canai a dawnsiai'r gwragedd, a buont yn hir cyn dychwelyd i'w cartrefi.

'Dyma rai o'n gwragedd Cristnogol wedi dod i'ch gweld," ebe'r cenhadwr. Daeth tair gwraig dal, olygus, i'r ystafell. Yr oedd dillad o amryw liwiau am danynt.