Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Blwyddyn Plwyf Lle'r Ysgol
1757-8 • • Llwyn Dafydd • • ——
1759 • • Llangathen • • Pantyrhelyg.
1761-2 • • Llandysul • • Dolfor.
1767 • • Llanfynydd • • Penlan Fach
1770 • • Llanfynydd • • Ffoslwyd.
1772 • • Llandeveision • • Castell Howel.
1772-3 • • Cil-y-Cwm • • Tŷ Newydd.
1774-5 • • Llanfynydd • • Soar.
1775 • • Llangunnor • • Nant-y-Caws.[1]

Ni wyddys mab pwy oedd yr emynydd, dydd ei eni, y man y ganed ef, na dim arall o'i hanes hyd y flwyddyn 1757; eithr rhydd y rhestr uchod gyfrif o'i alwedigaeth a'r lleoedd y gweithiai ac y preswyliai ynddynt, am ddeunaw mlynedd, ac nid oes ar glawr, cyn belled ag y gwyddys yn awr, gyfrif am ddim ond y deunaw mlynedd hyn. Tyb a thraddodiad yw popeth arall. Cesglir yn naturiol oddiwrth ei emynau ei fod yn ŵr meddylgar a da, a rhydd llythyrau'r Welch Piety brawf o hynny. Dengys yr holl lythyrau ei fod yn un o athrawon mwyaf medrus a llwyddiannus Griffith Jones, bod ei ymarweddiad yn lân a chyson, a'i fod yn anarferol o ddefosiynol ei ysbryd. Yr oedd holl athrawon yr ysgolion yn ddynion rhinweddol, eithr dengys y llythyrau y rhagorai Morgan Rhys ar bawb ohonynt mewn diwydrwydd a defosiwn.

Rhy brin yw defnyddiau llythyrau'r Adroddiadau i seilio bywgraffiad i'r emynydd arnynt, ond diolchwn am danynt, oblegid rhoddant inni wybodaeth sicr am gyfnod helaeth o'i oes. Dysgant os bu'n aelod o gwbl yn y Corff Methodistaidd, na fu "yn aelod defnyddiol trwy ei oes yng Nghilcwm," oblegid mynychai'r Eglwys Sefydledig tra bu'n athro'r Ysgolion Cylchredol. Prawf yr Adroddiadau ei fod yn ffyddlon i gredo a threfn yr Eglwys Wladol.

  1. Methais a tharo hyd yma ar Adroddiadau 1764-5 a 1777-9. Pe deuid o hyd i'r tri olaf, dichon y ceid prawf i Morgan Rhys barhau'n athro'r Ysgolion Cylchredol hyd derfyn ei oes yn 1779.