ato gerrig miniog a dynnai waed i'w taflu at y llall. Credaf hefyd gyda'r Athro W. J. Gruffydd mai gwastraff mawr ar amser a phapur oedd y ddadl drwyddi. "Fel prydyddiaeth, prin y mae'r Cywyddau yn haeddu sôn amdanynt, ac fel esiamplau o gelfyddyd y Cywydd, y maent ymhell iawn ar ol gwaith y cywyddwyr distadl, ac yn aml yn disgyn i lefel yr awdlau Eisteddfodol gwaelaf."[1] Ni thybir wrth hyn nad oes ddarnau mân prydferth a tharawiadol yma a thraw drwy'r cywyddau. Cymerer a ganlyn o gywyddau'r Archddiacon:
Gwyllt yw byd, gwell ydyw bodd
Yr ynfyd na'i wir anfodd.
Llwm yw'r ŷd lle mae'r adwy.
Os anaf y sy ynod,
Gwylia'r farn gwelir ei fod.
A gano ffug yn y ffau,
Ar gil, ni ddaw i'r golau;
A gano wir ag ni wad,
A gâ lewyrch goleuad.
Y mae gofal am gyfoeth,
Yn lludd dawn, ac yn lladd doeth.
Taer yw, a hawdd y tŷr rhai,
O groen gwirion gryn garai.
Rhaid i'r gwan ddal y ganwyll
I'r dewr i wneuthur ei dwyll.
Nid teg ac nid diogan,
Iawn glod, ond o enau glan.
Y ci hefyd o cyfarth,
Antur yw, ddeintio ar arth.
- ↑ W. J. Gruffydd. Llenyddiaeth Cymru, tud. 102.