Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

WILLIAMS YN PRIODI.

Pan oddeutu deuddeg ar hugain oed ymbriododd Williams â Mary Francis, merch Thomas Francis, Penlan, Llansawel—gŵr yn dda arno, a dwy fferm fechan yn Llanllawddog yn gefn iddo. Mary oedd unig blentyn ei rhieni, ac wedi peth disgwyl daeth y ffermydd yn eiddo iddi hi a Williams. Gŵr ffodus a chefnog ynglŷn â phethau'r byd hwn oedd yr emynydd, oblegid daeth tair etifeddiaeth yn eiddo iddo, sef Cefncoed, cartref ei dad, Pantycelyn, cartref ei fam, a ffermydd tad ei wraig yn Llanllawddog. Dyma dair ffrwd ei gysylltiadau teuluol yn arllwys cyfoeth i'w fywyd. Eithr cafodd fwy a gwell cyfoeth ym "Mali" ei briod nag yn yr holl ffermydd gyda'i gilydd.

Bu Mary Francis yn gymdeithes i wraig y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, yr hon oedd chwaer i Syr John Phillips, o Gastell Picton, a magodd Mary brofiad gwerthfawr yng nghymdeithas y teulu hwn a'r ymwelwyr bonheddig a ddaethai i Gastell Picton o dro i dro, a chwanegodd yn fawr at ei chymhwyster i fod yn gymar bywyd i'r bardd-bregethwr. Dywedir bod Mrs. Williams yn wraig dalentog a duwiol, a chanddi lais canu swynol anarferol, ac y penderfynai'r emynydd faint llithrigrwydd ei emynau a'u cyfaddaster i donau adnabyddus trwy iddi hi eu canu. Wyth mlynedd wedi claddu ei phriod hunodd Mrs. Williams hithau yn y flwyddyn 1799, yn 76 mlwydd oed, a chladdwyd hi wrth ochr ei gŵr ym mynwent Llanfairar-y-bryn.

Ganed i'r emynydd a'i briod wyth o blant—chwe merch a dau fab. Gwnaeth yr Ymneilltuwr Methodistaidd a gefnodd ar yr Eglwys Sefydledig offeiriaid o'i feibion. Mor anodd cysoni rhai pethau ym mywyd dynion enwog! Ni wyddys ond ychydig o hanes William y mab hynaf. Cafodd guradiaeth yn Newlyn, ger Truro, yng Nghernyw, ac yno y bu farw yn 1818. Urddwyd John yn ddiacon gan Esgob Warren, yn Abergwili, Hydref 17, 1799. Bu'n gurad yn eglwys Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin, ac ym