Tudalen:Prif Emynwyr Cymru.pdf/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymwelai'r emynydd yn fynych â Lloegr ynglŷn â'i alwedigaeth, a hynny ar ol ei droedigaeth, fel cynt, a naturiol casglu y manteisiai ar gyfleusterau i fynychu addoldai'r Saeson, ac iddo yn y rhain ddyfod yn gynefin â Salmau godidog y Dr. Watts. Rhaid casglu hefyd oddi wrth y ffaith i "rai gweinidogion parchedig "ei annog i'w cyfieithu nad gŵr cyffredin ei gynheddfau a'i fedr ydoedd Dafydd Jones, oblegid nid dynion anwybodus a diddysg ydoedd gweinidogion Ymneilltuol y cyfnod hwnnw. Y mae'n lled debig i'r Diwygiad Methodistaidd effeithio llawer ar yr hen eglwysi Ymneilltuol, oblegid awgryma'r awydd am gyfieithiad Dafydd Jones y sylweddolai crefyddwyr i ryw fesur angen am addasach cyfryngau i fynegi eu profiadau crefyddol na Salmau Edmwnd Prys. Tra'r oedd yr Eglwys yn isel gwasanaethai cyfieithiad llythrennol ac oer Prys i'w hanghenion, eithr pan daranodd Duw trwy'r Diwygiad, deffrodd yr hen Ymneilltuwyr i fywyd uwch a gweithgarwch mwy, ac ni allai profiad tanllyd diwygiad droi'n foliant mewn llythyren gul ac oer; yr oedd yn rhaid cael cyfryngau perffeithiach. Adroddir hanes crefydd Cymru er y Diwygiad gan ei hemynau.

Prin yr amheua neb ragoriaeth Salmau Dafydd Jones ar eiddo Prys fel cyfryngau mawl crefyddwyr y flwyddyn 1753, â'r Diwygiad yn y wlad. Ond paham tybed yr anogai "gweinidogion parchedig" yr emynydd i gyfieithu Salmau Watts pan geid eisoes yn eu cyrraedd cystal cyfryngau ag a gaed erioed, os nad gwell yn emynau Pantycelyn? Cyhoeddwyd Aleluia Williams yn bum Rhan; y gyntaf yn 1744 a'r olaf yn 1747. Felly, yr oedd y pum rhan at wasanaeth yr eglwysi chwe blynedd cyn cyhoeddi Salmau Dafydd Jones. Y mae amryw resymau tros gredu fod dau beth o leiaf yn cyfrif am ymddygiad y gweinidogion yn ceisio Salmau'r Dr. Watts. Yn gyntaf, yr oedd rhagfarn sect yn gryf yn Eglwysi'r cyfnod. Dysg y mwyafrif a sgrifennodd ar gyflwr Crefydd Cymru ar gychwyn y Diwygiad Methodistaidd i'r hen eglwysi Ymneilltuol ddefnyddio ysbryd byw a thanllyd y Diwygwyr