Tudalen:Prif Feirdd Eifionydd.djvu/14

Gwirwyd y dudalen hon

Teimlai pawb yn ei gwmni eu bod ym mhresenoldeb dyn mwy na'r cyffredin. Edrychid arno fel proffwyd gan drigolion y wlad o amgylch. Nid fel bardd yn unig yr oedd yn enwog. Yr oedd yn hynafiaethydd o fri. Astudiodd hynafiaethau ei wlad a'i ardal; ac nid oes dim yn fwy diddorol na hanes arferion ein gwlad yn yr hen amser gynt. Mae pob "maen a murddyn " a "thomen" yn dweyd ei stori wrth y meddylgar a'r craff. Yr oedd hefyd yn gerddor deallgar; ei athro yn y gangen hon oedd y Parch. J. R. Jones o Ramoth, un o ddynion enwocaf ei oes. Chwiliwch ei hanes yntau.

Saif Robert ap Gwilym ymysg beirdd goreu Cymru. Dywed rhai cymwys i farnu fod ei englynion y rhai goreu yn yr iaith. Dyma un ohonynt sydd wedi glynu yng nghalon pob Cymro a'i clywodd,—

"Paham y gwneir cam a'r cymod,—neu'r Iawn,
A'i rinwedd dros bechod?
Dyweder maint y Duwdod,
Yr un faint yw'r Iawn i fod."

Yn aml iawn y mae llawer o bethau hynod yn perthyn i ddynion gwir fawr, ac yr oedd rhai hynodion. yn perthyn i'r bardd enwog yma. Dywedir ei fod yn hoff iawn o glywed rhywun yn adrodd ei waith ac yn ei ganmol. Un tro aeth dyn dieithr i edrych am dano, a gwelodd yn union nad oedd llawer o groeso iddo. Cofiodd fod y bardd yn hoff o glywed canmol ei waith, ac meddai wrtho, "Wyddoch chwi beth, Robert Williams, englyn rhagorol ydyw hwnnw wnaethoch chwi." "Pa un yw hwnnw, y gwr dieithr?" ebe'r bardd. "Hwn," meddai'r dyn, ac adroddodd yr englyn i'r Iawn, a ddyfynnwyd uchod. "Wel, yn wir, y mae o'n dlws," meddai yntau, ac yna dywedodd wrth ei wraig, "Gwnewch gwpanaid o de a thipyn o doast i'r gwr dieithr yn union deg." Dengys hyn mor naturiol a di-ragrith oedd, mae pob bardd yn hoff o glywed ei ganmol a chanmol ei waith.