Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PROFEDIGAETHAU ENOC HUWS.


—————————————


RHAGARWEINIAD.

BWREDID i'r hanes hwn fod yn rhyw fath o attodiad i Hunangofiant Rhys Lewis. Pan yn cyhoeddi y gwaith hwnw mi a gymerais— pa un ai yn gam ai yn gymwys, nid yw o fawr bwys erbyn hyn—y darllenydd i fy nghyfrinach, am y modd y daethai yr ysgrif hono i fy nwylaw, ac am yr hyn a'm cymhellodd i'w hargraffu. Yr oedd genyf, ar y pryd, resymau digonol, i mi fy hun, dros fabwysiadu y cwrs a gymerais— rhesymau, rhaid i mi gydnabod, nad ydynt o wasanaeth yn yr amgylchiad hwn. Wrth gyhoeddi yr hanes hwn yr wyf yn ymwybodol fy mod yn gwneud antur lawer pwysicach. Gyda'r Hunangofiant, Rhys Lewis ei hun oedd gyfrifol am deilyngdod y gwaith ac am fanylion ffeithiau ei einioes fêr. A phe digwyddasai iddo fol. yn annghymeradwy gan y Cymry, yr unig gŵyn, o bwys, a allesid ei dwyn yn fy erbyn am anturio ei argraffu a fuasai fy mod wedi dangos diffyg barn, Yn ffortunus, hyd y gwn i, ni ddygwyd cŵyn o'r fath yn fy erbyn. Derbyniwyd y llyfr yn galonog gan ieuainc a hen, a chyfiawnhawyd fy ngobeithion na fyddai yr amgylchiadau a'r cymer- iadau a ddesgrifld gan Rhys Lewis—yn ol y ddawn a rodded iddo ef—yn annerbyniol nac annyddorol.

Ond wrth ddwyn yr hanes hwn drwy y wasg yr wyf yn. teimlo yn bur wahanol. Rhaid i mi sefyll ar fy ngwadnau fy hun, fel y dywedir. Yr wyf yn gosod fy hun mewn sefyllfa i gael fy nghyhuddo—nid yn unig o fod yn ddiffygiol o farn ond hefyd o fedr. Myfi fy hun raid fod yn gyfrifol am ffeithiau, arddull; a phobpeth yn nglŷn â'r hanes yr wyf ar fin ei adrodd, ac nid yw fy ngobeithion o Iawer mor ddisglaer am y derbyniad a roddir iddo gan fy nghydwladwyr. Gwenieithwn oll i ni ein hunain ein bod yn meddu barn—y gwyddom beth sydd yn werth ei argraffu a beth sydd heb fod felly. Pawb ydynt