Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/117

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o drwsio lampau eu gobaith. Prin y gallai fyned o'i dŷ na chyfarfyddai efe ryw weithiwr neu gilydd, yr hwn a droai lygad pryderus ato, gan ddisgwyl rhyw air y gallai hongiau ei obaith arno. Edrychai y Capten arno gyda llygad tosturiol— cymerai afael yn gartrefol yn lapel ei got a dywedai yn fwyn— "Wel, Benjamin bach, mae pethau yn ddifrifol on'd ydynt? Ond mi wyddwn er's tro mai i hyn y doe hi. Beth arall oedd i'w ddisgwyl, gan na chawn fy ffordd fy hun o drin y Gwaith yn y modd goreu? Ond peidiwch rhoi'ch calon i lawr, Benjamin, mi droiff rhywbeth i fynu rai o'r dyddiau nesaf yma. Gawsoch chwi fwyd, Benjamin, heddyw? Wel, wel,—rhoswch —cymerwch y note yma ac ewch at Miss Trefor," a thynai y Capten ddarn bapyr o'i boced ac ysgrifenai arno mewn lead pencil—Dear Susi—give this poor devil a bite of something to eat Digwyddai peth fel hyn yn mron yn ddyddiol. Ymdrechai y Capten yn feunyddiol godi ysbryd cystuddiedig y gweithwyr, ac anfynych y methai loewi gobaith ambell un oedd ar ddarfod am dano. Sicrhâi y Capten y byddai i rywbeth droi fynu yn fuan i roddi gwaith i'r mŵnwyr, er nad oedd efe yn pwyntio at ddim pendant. Mynych y cyferchid ef gan y masnachwyr oeddynt wedi ac yn "trystio" y gweithwyr am ymborth—"Capten Trefor, ydach chi'n meddwl fod gobaith i Bwllygwynt ail gychwyn?" "Syr," atebai y Capten, "ni fynwn er dim a welais greu gobeithion gan. Nid peth anmhosibl ydyw i Bwllygwynt ail gychwyn, ond y mae hyny yn bur annhebygol. Os ail gychwynir y Gwaith ni fydd a wnelwyf fi ddim âg ef ond ar un telerau—sef y caniateir i mi gael fy ffordd fy hun, a chwi wyddoch, Mr. Jones, mor anodd ydyw i ddyn—pan na fydd ond gwas i'r Cwmpeini—gael ei ffordd ei hun er i'r ffordd hono fod yr un oreu. Fel mater o ffaith, syr, pe cawswn i fy ffordd fy hun, fe fuasai Pwllygwynt heddyw nid yn unig yn myn'd, ond hefyd yn talu yn dda i'r Cwmpeini. Ond rhyngoch chwi a fi—daiff ddim pellach just yrwan, Mr. Jones?—rhyngoch chwi a fi, mae fy llygad nid ar Bwllygwynt, ond ar rywle arall. Cewch glywed rhywbeth rai o'r dyddiau nesaf. Mewn cymydogaeth fel hon, sydd mor gyfoethog mewn mŵnau, fe egyr Rhagluniaeth rhyw ddrws o ymwared yn fuan. Mewn ffordd siarad, nid ydyw hyny, i mi yn bersonol, nac yma nac acw. Ar ol yr oll helynt, y pryder a'r siomedigaethau, mae'n bryd i mi gael gorphwys.