Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/122

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y'ch disgwyl chi drw'r dydd. A chithe ddim yn gweithio, fase waeth i chi roi'ch clun i lawr yma na phendwnipian gartre. Ewch at y tân, Sem, mi fydda wedi gorphen yr esgid yma mewn dau funyd, ag ono mi gawn smogen a mygòm."

"Raid i ddyn sy'n medru darllen, er i fod o allan o waith, ddim peudwmpian, Thomas," ebe Sem.

"Twbi shwar," ebe Thomas, " 'rydw i'n rhy at o feddwl fod pawb 'run fath a fi fy hun. Os na fydda i'n gweithio, ne'n smocio, ne'n byta, mi fydda'n cysgu; dyna just y pedwar peth ydw i'n nend yn yr hen fyd yma."

"Rhw fyd go sâl fyddo fo bydae pawb 'run fath a chi, Thomas," ebe Sem.

"Siampal!" ebe Thomas, "ac eto, 'rydw i reit cyfforddus, a dydw i ddim yn gweld y rheini sy'n sgolars yn rhw helynt o bethe—'rydw i lawn gystal fy off a rhan fwya o honyn nhw—diolch i'r Brenin mawr am hyny. Achos os ceiff dyn fwyd a diod ac iechyd, bo chwaneg sy gyno fo isio?"

"Rydach chi'n anghofio, Thomas," ebe Sem, "fod gan ddyn feddwl ac enaid, ac y mae isio porthi'r enaid cystal a'r corph."

"Twbi shwar, ydach ddim yn meddwl y mod i mor ddwl a hyny, Sem? Achos i be yr yden ni'n myn'd i'r capel, blaw i gael profigws i'r ened? Deyd yr ydw i, Sem, na feder dyn ddim a byw ar ddoethineb. Achos dyma chi a fine, 'rwan, y fi yn ddyn dwl a chithe'n sgolor, ac er y mod i'n blwc hŷn na chi, mi gymra fy llw y pwysa i ddau o honoch chi, Sem, er y'ch holl ddoethineb, achos 'rydach chi'n edrach mor dila, ddyn, a bydaech chi'n byw ar bot past," ebe Thomas.

Yn y fan hon goddiweddwyd Sem gan bangfa ofnadwy o besychu, a chyn i'r bangfa fyned drosodd yr oedd Thomas wedi rhoi ei —waith o'r neilldu ac wedi eistedd gyferbyn a Sem yr ochr arall i'r tân 'ac yn edrych arno yn sỳn, ac ebe fo—"Wyddoch chi be', Sem? 'daswn i ddim yn y'ch nabod chi, a gwbod bod chi 'run fath ddeng mlynedd yn ol ag ydach chi 'rwan, faswn i'n rhoi'r un ffyrling am y'ch bywyd chi? Wel, ond ydach chi'n pesychu, ddyn, fel bydae chi'n myn'd i farw! Cym'rwch smogen, Sem, gael i'r pẁl fyn'd drosodd. Barbra, gwna paned o goffi i ni, a thipyn o facyn i iro tipyn ar du mewn Sem yma, ne' chawn ni ddim byd o hono fo, gei di wel'd. Sem, wyddoch chi pwy rôth y blwch baco ene i mi? 'llenwch y peth sydd ar y ceuad."