Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor ddigrifol a fyddai yr arddull hwn mewn cylchoedd eraill, mae'n rhyfedd y gall cynulleidfa Gymreig nid yn unig beidio chwerthin ond cadw gwyneb sobr tra bydd y pregethwr yn ymresymu, yn adrodd hanes, neu yn perswadio ei wrandawyr i gredu yr efengyl, a'r cwbl i gyd ar gân! Yn ffortunus yn y dyddiau hyn mae canu pregethu yn prysur fyned allan o'r ffasiwn, a buan yr elo. Ond y mae yn ddiau mai i'r hen ddull. o lefaru y serthiasai Rbys Lewia oni bai i Wil Bryan ddangos gwrthuni y peth iddo, a'i "warnio" y byddai iddo ei "hymbygio" os caffai efe ef yn euog o'r fath annaturioldeb

Un sylw araIl, ac yna dechreuaf ar fy stori. Temtasiwn pregethwr sydd wedi troi yn mhlith pobl dda a chrefyddol yn unig ydyw edrych ar gymeriadau cyffelyb i Wil Bryan fel drwg dirmygus—fel pobl â'r gwahanglwyf arnynt, ac felly i'w hosgoi a'u gadael i ofal Duw. Nid oes syniad mwy cyfeiliornus yn bod, ac wrth ddweyd fel byn nid oes angen i mi hysbysu y ddarllenydd nad yn yr ystyr dduwinyddol yr wyf yn sôn am ddynion. Ar arwynebedd calon cymeriadau diofal, cellweirus a rhyfygus fel Wil Bryan y mae rhyw lecyn tyner nad ydyw yn ganfyddadwy o'r pellder, ac o arfer doethineb, a. than fendith Duw y gellir ei droi i good account, Drwg yn wir ydyw telyn natur y dyn hwnw nad oes ynddi un tant a ddyry sain hyfryd. Buasai hyn yn enllib ar ei Gwneuthurwr, ac yn gredyd i'r diafol, nad ydyw, mi obeithiaf, yn ei haeddu. Mae anrhydedd yn mhlith lladron. Yn aml iawn, wrth wregys y rhai a fuont yn troi gyda'r dosbarthiadau annuwiolaf y croga y nifer mwyaf o allweddau i ystafelloedd y galon. Oni dyna ddigon ar hynyna. Gadawodd Rhys Lewis amryw gymeriadau hynod yn mhlith pobl Bethel heb sôn dim am danynt, a fy ngorchwyl i ym benaf yn yr hanes hwn fydd chwedleua tipyn yn nghylch y rhai hyny, ac y mae'n bryd i mi ddechrau.