Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VII

DEDWYDDWCH TEULUAIDD.

NOSWAITH yn mis Tachwedd ydoedd—noswaith ddigon oer a niwliog, ac yr oedd pobl y frest gaeth a'u trwynau wrth y pentan yn ymladd am eu hanadl, ac, yn ddigon naturiol, yn meddwl mai hwynthwy yn unig oedd mewn trueni y noswaith hòno. Ond y mae y fath beth weithiau ag asthma ar feddwl ag amgylchiadau dyn pryd nad wyr i ba le i droi ei ben i gael gwynt. Wrth fyned heibio Tynyrardd, preswylfod Capten Trefor, cenfigenai ambell fwnwr tlawd, byr ei anadl, at ei gledwch, a dedwyddwch ei breswylydd. Dywedai ynddo ei hun, "Mae'r Capten yn bwyta ei swper, neu wedi gorphen ei swper, yn ysmocio ei bibell, ac yn estyn ei draed mewn slipars cochion at ei dân gwresog, a minau, druan gŵr, yn gorfod gadael fy nheulu a myn'd i weithio stem y nos yn Mhwllygwynt, byddae yno wynt hefyd. Gwyn fyd y Capten! Ond 'does dim posib i bawb fod yn Gapten, a'r neb a aned i rôt ddaw o byth i bum' ceiniog."Ond pe gwybuasai y mwnwr y cwbl, mae yn amheus a newidiasai efe ddwy sefyllfa â'r Capten. Y ffaith oedd, nad oedd y Capten yn bwyta ei swper, nac yn ysmocio, nac yn estyn ei draed at y tân, ond yn hytrach, yr oedd efe yn eistedd wrth ben y bwrdd ac yn ceisio ysgrifenu. Gorphwysai ei ben ar ei law chwith, a'i benelin ar y bwrdd, a daliai ei bin yn segur yn ei law ddeheu, ac ymddangosai mewn myfyrdod dwfn a phoenus. Yn ei ymyl, ar y bwrdd, yr oedd llestr yn cynwys Scotch Whiskey, ac yr oedd y Capten, mewn ystod haner awr, wedi apelio at y llestr hwn amryw weithiau, am help a swcwr. Wrth ben arall y bwrdd yr oedd Mrs. Trefor yn brysur gyda rhyw wniadwaith, ac mewn cadair esmwyth wrth ei hochr, ac yn ymyl y tân, eisteddai Miss Trefor, yn ddiwyd weithio rhyw gywreinwaith gyda darn o ivory tebyg i bysgodyn bychan, ac edafedd wen. Yr oeddynt ill trioedd can ddistawed a llygod eglwys, oblegid ni chaniateid i'r fam a'r ferch siarad tra byddai y Capten yn yagrifenu ei lythyrau. Taflai y ddwy er's meityn edrychiad