Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hun yn gapten ar y gwaith. Meddyliai pawb ei fod yn ddarganfyddiad ardderchog. Ond ofnwn i o'r dechreu mai troi allan yn dwyllodrus a wnai, ond cedwais hyny i mi fy hun, a gobeithiwn y gorau. Yr oeddwn yn adnabod Mr. Fox, o Lunden, er's blynyddoedd—mi weddwn hyd ei gydwybod—a'i fod yn gwybod yn dia sut i weithio'r oracl. Mi ddropies lein iddo dd'od i lawr. Yr oedd Mr. Fox yma yn union, heb golli amser, fel dyn am fusnes. Cymerais ef i weld Pwyllygwynt. Bu agos iddo ffeintio pan welodd yr 'olwg,' ac oni bae fod ei galon fel maen isaf y felin, buasai yn crïo fel plentyn. Yr oedd o wedi darn wirioni, ac yn gwaeddi ac yn neidio fel ffwl. Mor falch a llawen oedd o, fel y gallasai, mi gymra fy llŵ, fy nghario ar ei gefn am ddeng milldir! Gwyddwn i o'r goreu pa fath ddyn oedd gen i i ymwneud ag ef, ond ni wyddai ef ddim am danaf fi. Yr oedd wedi cael allan yn yr hotel cyn i ni gychwyn i weld Pwllygwynt fy mod yn Fethodist, ac ni wyddai ro iawn sut i siarad a fi. Ar y dechreu yr oedd yn wyliadwrus ryfeddol pa beth a ddywedai. Mr. Fox oedd ei enw, ac yr oedd yn ateb i'w enw i'r dim. Yr oedd yn grefyddwr mawr yn ei ffordd ei hun y diwrnod hwnw, ac ar ol bod yn gwel'd Pwllygwynt, pan oeddym yn cael cinio, ar ol iddo ofyn bendith, holodd gryn lawer am hanes crefydd yn Nghymru, a chymerodd gryn lawer o drafferth i ddangos mai yr un pethau oedd y Scotch Presbyterians a'r Methodistiaid Calfinaidd. Gwyddwn o'r goreu mai yr un peth oedd o a minau, ac ebe fi wrtho, Mr. Fox, nid dyna'r pwnc heddyw. Yr wyf yn gwybod am danoch chwi er’s blynyddoedd, ond ni wyddoch chwi ddim am danaf fi. Mi wn pan fydd gwaith mwn yn y cwestiwn na chaiff crefydd, gyda chwi, fod ar y ffordd i'w rwystro i'w wneud yn llwyddianus. Mae eich profiad—nid eich profiad crefyddol yr wyf yn feddwl yn fawr. Ein pwnc ni heddyw ydyw sut i wneud sôn a siarad am Bwllygwynt, i ffurfio cwmni cryf a chael digon o arian i'n dwylaw. Chwi wyddoch fod yn y Gwaith 'olwg' ardderchog, a chwi ydyw y dyn yn Llunden, a minau sdyw y dyn yma—beth bynag fydd byd eich cydwybod chwi yn Llunden, yr un hyd yn union fydd hyd fy un inau yma! ' Wedi i ni siarad fel yna ysgwydodd Mr. Fox ddwylaw efo fi, a galwodd am botel o champagne, ac o'r dydd hwnw hyd heddyw ni fu gair o son am grefydd rhyngom. Yr ydach chwi'n adwaen Mr. Fox, onid ydach