Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwi, Sarah? Mae o wedi bod yma fwy nag unwaith yn cael cinio, ac am grefydd y soniai bob amser gyda chwi, onide? a byddai yn crïo gyda'r llygad agosaf atoch chwi, ac yn wincio gyda'r llall arnaf finau. Scotchman ydyw Mr. Fox, a'r rhagrithiwr mwyaf melldigedig a adwaenais erioed—oddigerth fi fy hun! Sarah, bydawn i yn mynd dros yr holl hanes yn fanwl, fe fyddai ei haner yn Latin i chwi, a'r unig beth a welech yn eglur a fyddai y fath ŵr cydwybodol sydd genych! Ond 'doedd dim Latin rhwng Mr. Fox a minau—yr oeddym yn dallt ein gilydd i'r dim. Yr oeddym ein dau yn gobeithio, o waelod ein calonau, i waith Pwllygwynt droi allan yn dda, ac yn credu o waelod ein calonau mai fel arall y troai, ond, fel gwir feinars, ni ddarfu i ni sibrwd ein crediniaeth i neb byw bedyddiol.

"Ydach chwi yn y nghanlyn i, Sarah? Fe ddarfu i ni, fel y gwyddoch, ffurfio cwmpeini cryf, a thalwyd i lawr filoedd o bunau. Fe ddarfu i ni ei wneud yn point i beidio agor ond can lleied ag a fedrem ar y Gwaith, rhag i'w dlodi o ddod i'r golwg, a chymeryd gofal i wario cymaint o arian ag a fedrem ar y lan mewn buildings a machinery ac yn y blaen. Achos pan fydd pobl wedi gwario llawer o arian gyda gwaith mwn, mae yn fwy anhawdu ganddynt ei roddi i fynu. Ac fe ddaeth y dŵr i'n helpio i gadw y Gwaith i fyn’d yn mlaen, ac i fod yn esgus am bob rhwystr ac oediad. Cyfaill mawr a fu y dŵr i Mr. Fox a minau. Fe foddwyd ambell fil bunau yn y dŵr. Fe ddarfu i ni newid y machinery deirgwaith, er mwyn cyfarfod a dymuniadau ein cyfaill ffyddlon Mr. Dŵr. Bob tro y ceid machinery newydd yr oedd hyny yn gwaghau cryn lawer ar bocedau y cwmpeini, ac yn rhoi tipyn bach yn mhocedau Mr. Fox a minau, oblegyd yr oedd y cwmpeini yn ymddiried i farn Mr. Fox a minau fel prynwyr, ac nid oedd ond peth iawn a phriodol i ni gael tâl am ein barn. Ond nid y cwmpeini, dalltwch, oedd yn talu i ni, ond y bobl oedd yn gwneud y machinery, achos yr oedd yn rhaid i'r llyfrau ddangos fod pob peth yn cael ei gario yn mlaen yn straightforward ac nad oedd dim twyll yn cael ei arfer. Commission, wyddoch, a fyddai y makers yn ei alw, gair a ddyfeiswyd i dawelu cydwybodau capteniaid gweithydd mwn. Ond erbyn hyn y mae y gair yn nicsionari y Canwyllwr, yr Ironmonger, y Timber Merchant, y dyn sydd yn gwerthu powdwr, a chant a mil eraill." Yn y fan hon, eto, apeliodd y Capten am swcwr at y botel.