Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ië, Pwllygwynt," ebe'r Capten, "pe buasai gen i ddigon o arian. Pe buasai gen i foddion mi fuaswn yn prynu Pwllygwynt. Ond gan nad oes gen i ddim quite ddigon i hyny—yn wir, ddim yn agos ddigon—mi fuaswn yn cychwyn mewn lle arall. Mae fy llygad ar y lle er's tro, rhag ofn i rywbeth ddigwydd i Bwllygwynt. Eithaf peth, Mr. Denman, ydyw bod yn barod ar gyfer y gwaethaf. A Ngwaith i y ca'i o fod, gydag ychydig ffrindiau, ac ni chai pobl Llunden ro'i eu bys yn y brywes hwnw. Gwaith a fydd o ar scale fechan, heb lawer o gôst, ac i dd'od i dalu yn fuan. Ond fe fydd raid i mi gael ychydig ffrindiau o gwmpas cartre' i gymeryd shares. Un o'r ffrindiau hyny fydd Mr. Denman. Rhyngoch chwi a fi, yr wyf wedi cymeryd y takenote yn barod, ac, yn wir, yr oedd eich llês chwi yn fy ngolwg yn gymaint a fy llês fy hun. Yr ydych wedi gwario cymaint, Mr. Denman, fel yr wyf wedi bod yn pendroni pa fodd y gallwn ro'i rhywbeth yn eich ffordd."

"Lle mae eich llygad arno, Capten? mod i mor hy' a gofyn," ebe Mr. Denman yn llawn dyddordeb. "Wel," ebe'r Capten, "yr ydych chwi a minau yn hen ffrindiau, a mi wn na wnewch chwi ddim gadael i'r peth fyn'd ddim pellach, ar hyn o bryd, beth bynag. Cofiwch nad yrwan y mae y lle wedi dyfod i fy meddwl i gyntaf; na, mae o yn fy meddwl i er's blynyddoedd yr wyf wedi breuddwydio llawer yn ei gylch. O ran y meddwl y mae'r peth yn hen—mae'r bydle'n fywiog—mae'r engine yn chwyrnu—mae'r troliau yn cario'r plwm i Lanerchymôr—ac eto y mae y borfa yn las ar wyneb y tir! Yr ydych yn deall fy weddwl, Mr. Denman!—Yn y meddwl y mae'r Gwaith yn hen, ond mewn reality y mae y dywarchen heb ei thori. Yn fy meddwl (a chauodd y Capten ei lygaid am funyd), yr wyf yn gweled y cwbl ar lawn waith—mae yn hen, hen, yn fy meddwl i, ond yn newydd i'r byd—yn wir, yn anwybyddus—yn ddirgelwch hollol! "

"Hwyrach," ebe Mr. Denman, " fy mod yn rhy hy', ond dydach chi ddim wedi deud eto—"

" Mr. Denman," ebe'r Capten, gan dori ar ei draws, "peidiwch âg arfer geiriau fel yna. 'Does dim posib i chwi fod yn rhy hyf arnaf. Fel y dywedais, yr ydym yn hen ffrindiau, a 'does gen i ddim eisieu cadw dim oddiwrthych dim, dim. Ni fuaswn yn siarad fel hyn efo neb arall. Os oes