Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Huws, yn wir, mae yn ddiamheu, y bydd raid i ni yn y drafodaeth hon—hyd yn nod os byddwch yn cydymffurfio â'm cais—gael rhywun arall i mewn, megis Mr. Lloyd, y twrne, er y dymunwn ei gyfyngu i'r cylch lleiaf sydd yn bosibl. ('Marriage Settlement mae o'n feddwl, ddyliwn,' ebe Enoc yn ei frest, a churai ei galon yn gyflymach). Yr wyf, gyda thipyn o gyfrwystra, Mr. Huws," ychwanegai y Capten, "wedi sicrhau y virgin ground, fel y dywedir. ('Diolch! os ydi hi yn foddlon, ond yr wyf just a ffeintio,' ebe Enoc ynddo'i hun). Ond y cwestiwn ydyw a fyddwch chwi, Mr. Huws, yn foddlon i ymgymeryd â'r anturiaeth, hyny ydyw, os llwyddaf i ddangos i chwi y fantais o hyny?" Yr oedd Enoc ar fedr dweyd, "Twbi shŵar y byddaf yn fodalon," pryd yr ychwanegodd y Capten," Mae arnaf ofn, Mr. Huws, nad ydych yn teimlo yn iach—mae eich gwedd yn dangos hyny yn eglur—dowch yn mlaen yma, syr, a gorweddwch ar y soffa am funyd—yr ydych wedi gorwneud eich hun, a'r ystumog, hwyrach, allan o order. Gorweddwch, Mr. Huws, mi geisiaf rywbeth i'ch dadebru."

Teimlai Enoc ei hun yn hollol ddiymadferth,ac ufuddhaodd i anogaeth y Capten. Er ei fod yn ddig enbyd wrtho ei hun am ei fod y fath "hen gath," teimlai yn sicr ei fod yn llesmeirio.

Agorodd y Captain ddrws yr ystafell a gwaeddodd yn uchel

"Susi, dowch â thipyn o frandi yma ar unwaith."

"Na, na," ebe Enoc, oblegid nid oedd yn llesmeirio, "mi fyddaf yn all right yn union deg."

"Mae'n rhaid i chwi, Mr. Huws, gymeryd rhywbeth i'ch dadebru—yr ydych wedi gorwneud eich hun, "ebe'r Capten.

Gan dybied mai ar ei thad yr oedd angen am y brandi, daeth Susi yn frysiog i'r ystafell gyda'r quantum arferol, yr hwn, a dweyd y lleiaf, oedd yn stiff. Synodd Susi yn fawr pan welodd hi Enoc Huws yn gorwedd ar y soffa, a'i wyneb cyn wyned a'r galchen, a chynhyrfwyd ei chalon, oblegid yr oedd gan hyd yn nod Miss Trefor galon, ac ebe hi yn dyner

"O, Mr. Huws bach! 'rydach chi'n sâl. O! mae'n ddrwg gen i—ydi'n wir! Cymerwch hwn, Mr. Huws bach, dowch," a rhoddodd ei braich am ei wddf i'w gynorthwyo i godi ei ben. Yr oedd Enoc yn Nazaread o'r groth; ond sut y gallai ef wrthod? Crynai ei law yn gymaint fel nad allai ddal y gwydryn yn wastad, a chymerodd Susi y llestr yn ei llaw ei hun, gan ei osod wrth ei enau. Mor boeth oedd y gwirod, ac