Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

parodrwydd i gymeryd shares cyn deall pa beth yr oeddych yn ei wneud. Pan welaf ddyn anmharod i roi naid i'r tywyllwch, fel yr ydych yn eich ffordd hapus eich hun yn ei eirio, ond sydd a'i glust yn agored i wrando ar reswm, mi fyddaf yn teimlo mai dyn sydd genyf i ymwneud ag ef, ac nid hyn a hyn o bwysau o gnawd, ac mi wn, y pryd hwnw, sut i fyn'd o gwmpas fy ngwaith. Pa beth a roeswn i heno, syr, pe buasai pobl Llunden, neu, mewn geiriau ereill, pe buasai Cwmpeini Pwllygwynt o'r un ysbryd ac ansawdd meddwl a chwi, Mr. Huws? hyny ydyw, yn agored i wrando ar reswm? Mi roddwn fy holl eiddo, syr, ffrwyth fy llafur caled am lawer o flynyddoedd, pe byddai yn bosibl eu cael i'r un dymher meddwl a chwi, Mr. Huws. Ond ni a adawn y mater yn y fan yna heno."

Ac felly y gwnaethpwyd, er i'r Capten lefaru cryn lawer tra yr oedd Enoc yn rhoi ei het am ei ben ac yn parotoi i fyned ymaith.. Galwodd y Capten, ar Susi. "i ddangos: Mr. Huws allan," a phan wnaeth hi ei hymddangosiad, ysgydwodd y Capten ddwylaw gydag Enoc, a chiliodd yn ol i orphen y busnes gyda Mr. Denman.

PENNOD XIII.

CARWR TRWSTAN.

Yr oedd yn noswaith oer a niwliog, fel y dywedwyd ddwy waith o'r blaen, a phan agorodd Miss Trefor ddrws y ffrynt i ollwng Enoc allan, teimlai yr olaf yr awel fel pe buasai yn cymeryd croen ei wyneb ymaith.

"Cymerwch ofal rhag cael anwyd, Mr. Huws, a 'rydw i'n gobeithio eich bod, erbyn hyn, wedi d'od atoch eich hun yn reit dda," ebe Miss Trefor.

"Cystal ag y bûm erioed," ebe Enoc, a meddyliai fod y cyfleusdra wedi dyfod iddo ddweyd tipyn o'i feddwl iddi. "Mi wn, o hyn allan, lle i ymorol am y doctor os digwydd i mi