Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/84

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Sut yr ydach chi wedi gneud eich dyledswydd, Richard, a chithe'n gwybod nad oedd ene ddim llon'd eich het o blwm yn Mhwllygwynt?"

"Y mae dyledswydd a dyledswydd, Sarah. Fy nyledswydd i, fel Capten, oedd gweithio dros y Cwmpeini, a rhoi prawf teg a gonest ar y gwaith a oedd yno blwm ai peidio. Yrwan yr wyf yn gallu dweyd nad oes llon'd fy het o blwm yn Mhwllygwynt, ond, o drugaredd, ni wyddwn hyny flynyddau yn ol. Mae busnes, Sarah, yn beth dyeithr i chwi, ac ofer a fyddai i mi geisio ei egluro. Ni a adawn y peth yn y fan yna heno. Ond y mae genyf eisiau son gair wrthych am beth arall, er fy mod yn teimlo yn bur gysgadlyd. Chwi wyddoch fod Susi yn dechreu myn'd i oed, ac fe ddylasai yr eneth fod wedi priodi cyn hyn. Ydych chwi ddim yn meddwl, Sarah, y buasai Mr. Enoc Huws yn gwneud purion gŵr iddi? Sarah?"

"Peidiwch a boddro, da chi! "

"Wel, fe ddylai yr eneth feddwl am rywun erbyn hyn, ac y mae perygl iddi aros yn rhy hir. Os nad ydyw fy ngolwg i yn dechreu pylu, yr wyf yn meddwl na fyddai gan Mr. Huws— hyny ydyw, Sarah, fe ddylech chwi grybwyll y peth wrth yr eneth—lle'r fam ydyw gwneud hyny. Beth meddwch chwi. Sarah? Sarah?"

"Cysgwch, a pheidiwch a chodlo, da chi."

"Wel, mae'n ddrwg genyf eich blino, ac mae'n bryd ni feddwl—hwyrach am orph—a chysgu— ŷch— chŷ— ŷch—chŷ."

"Hene, chwyrnwch, 'rwan fel mochyn tew. Ond fe geir taw bellach arnoch chi, tybed. O diar mi! mae rhw gath yn nghwpwrdd pawb, fel y clywes i mam yn deyd. Ond ddylies i 'rioed y base hi'n dwad i hyn. Mi fase'n dda gan 'y nghalon i daswn i 'roed wedi priodi."


RHIF IV.—"Wel, Denman! Denman! sut mae gynech chi wymed i ddwad i'r tŷ 'radeg yma ar y nos?"

"Oeddech chi'n disgwyl i mi ddweud heb yr un gwyneb?"

"Oes gynoch chi ddim c'wilydd, mewn difri', Denman, fod yn colma hyd dai pobol tan berfedd y nos? Fyddwch chwi'n gwel'd rhwfun arall yn gwneud hyny?"

"Lot."