Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Druan oedd Susan Trefor! Gyda'r eithriad o'r tipyn helynt a fu rhyngddi hi a'i thad yn nghylch Wil Bryan, ni wyddai hi, hyd yn hyn, ddim am brofedigaeth a chroeswynt gwerth sôn am dano. Yr oedd wedi byw gan mwyaf ar "ideas" a gogoniant dyfodol, heb arni na phryder na phoen. Pa beth bynag oedd ddiffygiol yn ei chymeriad, yr oedd ei rhiaint mor gyfrifol am dano, os nad yn fwy felly, na hi ei hun. Nid oedd hi, yn naturiol, yn amddifad o dalent, a phe cawsai well magwraeth, diau y buasai hi yn eneth bur wahanol i'r hyn ydoedd yr adeg yr ydwyf yn sôn am dani. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi dweyd o'r blaen yr ystyrid Susan Trefor yn ferch ieuanc hynod o brydferth. Trwy eu trwynau cydnabyddid hi felly gan y rhai nad oeddynt yn ei hoffi. Yr hyn a anmharai fwyaf ar ei phrydferthwch oedd y ffaith amlwg ei bod hi ei hun yn rhy ymwybodol o hono. Ni byddai Susan byth yn esgculuso gwneud defnydd o bobpeth i ymharddu. Fel y rhôs, yr oedd Susan can dwtied a dymunol yr olwg yn y bore cyntaf ag yn yr hwyr, a chan nad pa mor gynar yr elid i Dy'nyrardd ni ellid dal Susan yn ei dishabille. Yr oedd bob amser yn barod i gael tynu ei llun, ac yr wyf yn mawr gredu, pe na buasai llygaid i edrych arni, mai ychydig fuasai y gwahaniaeth yn ei hymddangosiad, oblegid gwisgai, debygid, yn fwy i foddhau ei hun nag i foddhau neb arall.

Ond y boreu y cyfeiriwyd ato yr oedd cyfnewidiad yn ymddangosiad Susan Trefor—cyfnewidiad mor amlwg nes tynu sylw ei mam y foment yr edrychodd arni. Ymwisgasai yn nodedig blaen, a'r "hen ffroc gotyn" yn hongian ar ei braich, Amlwg ydoedd fod hyny o gysgu a gawsai wedi ei wasgu i'r ychydig oriau cyn codi, yr hyn a barai i'w llygaid ymddangos yn chwyddedig a chlwyfus. Can gynted ag y daeth Susi i'r ystafell, cymerodd yr ymgom ganlynol le rhyngddi hi a'i mam :—

"Be ydi nene sy gynat ti 'dywed? Wyt ti'n myn'd i'w rhoi hi i rwfun?"

"Nag ydw, mam; 'rwyf am ei haltro i mi fy hun."

"Hon ene! lîo sy arnat ti, dywed, wyt ti'n gwirioni?"

"Hwyrach y mod i, wir, mam. Mi wn y mod i wedi bod yn ddigon gwirion am lawer o flynyddoedd, ond dydi hi ddim yn rhy hwyr i mi dreio gwella."

"Am bewt ti'n sôn? Dydw i ddim yn dy ddallt di."