Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/108

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XVIII

Curo'r Twmpath.

"IE," ebe Mrs. Trefor, wedi i'r forwyn fynd allan, "os cei di fyw i f'oed i—a 'rydw i'n gobeithio y cei di, ac yn llawer hŷn—mi gei lawer o bethe na lici di monyn nhw." "Yr ydw i wedi cael llawer o'r rheini heb ddwad i'ch oed chi, 'mam."

"Wyddost di mo d'eni eto, weli di, yn enwedig erbyn y doi di i ddechre byw, hynny ydi, pan ddaw gofal tŷ a theulu arnat ti. Ac yn wir, Susi, mi liciwn dy weld di wedi setlo i lawr—wedi priodi a gneud cartre i ti dy hun, achos, yn ôl trefn natur, fydd dy dad a finne ddim hefo ti am byth, wyddost. 'Rydw i wedi meddwl llawer am hyn yn ddiweddar."

"'Dydi'r prospect ydech chi wedi 'i dynnu ddim yn ddymunol iawn, 'mam, ac os peth fel yna ydi setlo i lawr,' mae'n well gen i beidio â gwybod 'y ngeni. A ddaru chi 'rioed o'r blaen, mi wyddoch, 'mam, siarad yn y dôn yna am setlo i lawr. Ddaru chi 'rioed sôn am ofal tŷ a theulu ac am wybod 'y ngeni, a phethe felly. Onid am beidio â'm taflu fy hun i ffwrdd—am beidio ag edrach ar neb ond rhai gwell na mi fy hun—am gofio pwy oeddwn—am ddal 'y mhen i fyny—ac aros f'amser, onid am bethe felly y byddech chi byth a hefyd yn siarad?"

"Mae tipyn o wir yn y peth 'rwyt ti'n 'i ddeud, Susi, ond mi wyddost mai dy les di oedd gen i mewn golwg bob amser, a 'does gen i ond deud 'run fath â dy dad—nad ydw inne ddim wedi bod yn berffaith ym mhopeth. A mi rof eto yr un cyngor i ti—'does dim isio i ti dy dawlu dy hun i ffwrdd, fel y byddan nhw'n deud. 'Rwy'n adde nad ydi pethe ddim yn edrach mor bethma efo ni ag y buon nhw, a hwyrach na chei di ddim gŵr mor respectable ag y baswn i'n dymuno i ti i gael. Ond bydae ti'n rhoi dy feddwl ar hynny, a bod yn gall, a