o arw gen i dy weld di'n priodi meinar, a mi fydde hefyd. Ond oes ene ddigon o ddynion mewn busnes y bydde'n dda gynnyn nhw gael geneth fel ti, wedi cael education. Ac, yn wir, bydawn i'n mynd yn ferch ifanc yn f'ôl, mi fydde'n well gen i gael dyn mewn busnes yn ŵr na'r peth y maen nhw'n i alw'n ŵr bonheddig. Mwya ydw i'n 'i weled ohonyn nhw sala yn y byd ydyn nhw yn 'y ngolwg i. Ond y mae dyn o fusnes yn ddyn o fusnes a llai o lol o'i gwmpas o. Er enghraifft 'rwan, dene rwfun fel Mr. Huws, Siop y Groes, mi fase'n well o lawer gen i briodi rhwfun fel fo na lot o'r rhai sy'n galw'u hunen yn fyddigions."
"At be 'rydech chi'n dreifio, 'mam? I beth 'rydech chi'n sôn am Enoc Huws wrtha i? Ydech chi'n meddwl gneud match rhyngof i ac Enoc Huws? Be ydi'r dyn i mi? Be waeth gen i am Enoc Huws, bydae o gan mil mwy cefnog? Mae'r dyn yn eitha, am wn i, ond dda gen i mono, a dyna ben ar hyna."
"Be haru ti, dywed; be 'naeth i ti feddwl 'mod i'n trio gneud match rhyngot ti a Mr. Huws? 'Doeddwn i ddim ond yn 'i enwi o fel enghraifft. A phaid â bod mor binco! mae'n debyg arw na 'dryche Mr. Huws ddim arnat ti! Mi feder dyn fel fo sy'n dda arno gael y neb a fynno. Paid â meddwl! 'dydi gwragedd ddim mor brin â hynny, ŵyr dyn! Mae'n arw o beth na feder un sôn am rwfun fel Mr. Huws heb i ti fynd i feddwl bod ar un isio gwneud match. Dim ffasiwn beth, 'y ngeneth i! ymgroesa! Mae digon o ferched cystal â thithe y bydde'n dda gynnyn nhw gymryd Mr. Huws, heb i ti roi pont dy ysgwydd o'i lle! Oes, yn eno'r annwyl! Mi fase rhwfun yn meddwl ar dy siarad di 'rwan dy fod ti am wisgo sachlian a lludw. Ond sefwch o'r gole! pwy ond y ni!"
"'Dydw i'n deud dim, 'mam, am Enoc Huws. Mae'r dyn yn eitha—yn ganwaith gwell na fi. Deud yr ydw i na dda gen i mono."