Pwy sy'n hidio pwy sy'n dda gen ti a phwy sy ddim? A rhaid i mi gael gen ti beidio â galw'r dyn yn Enoc ac yn Enoc o hyd. Mae'i sefyllfa, tybed, yn haeddu iddo gael ei barchu a'i alw'n Mistar cystal ag yr wyt tithe'n haeddu d'alw'n Miss."
"Yn llawer mwy, 'mam. 'Dydech chi ddim yn 'y nallt i. Mae Enoc Huws—neu Mistar Huws, fel yr ydech chi'n dymuno 'i alw—yn anhraethol well na fi, ond dda gen i mo'r dyn. A be ydech chi'n sôn am i mi briodi? 'Does gen i ddim eisiau priodi, a 'dydw i ddim am briodi, pe cawn i'r cynnig, nes bydda i'n ffit i briodi. 'Chaiff yr un 'meinar cyffredin' na 'dyn o fusnes achos i edifarhau ynof i byth, 'mam."
"O, felly! Be bydae Mr. Huws yn newid 'i feddwl ac yn gwrthod joinio dy dad gyda'r fentar newydd? A liciet ti fynd i wasanaeth?
"Liciwn, 'mam, os cawn i felly ddysgu gneud rhywbeth, a pheidio â bod yn Humbug. A 'dydw i'n hidio dim pa un ai newid ei feddwl ai peidio a wneith En—Mr. Huws. Er ei fwyn ei hun, mi fydde'n well iddo newid 'i feddwl, mi gymra fy llw."
"Be sy'n dy gorddi di, dywed? Wyt ti wedi glân hurtio? Os nad oes gen ti barch i ti dy hun, oes gen ti ddim parch i dy dad a minne? Susi, 'weles i 'rioed monot ti'n dangos yr ysbryd ene o'r blaen. Mae gen i ofn, 'y ngeneth i, nad wyt ti ddim wedi d'ail eni. Gweddïa am ras, 'y ngeneth bach i, a chymer ofal na chlyw dy dad monot ti'n dangos yr ysbryd ene, ne mi fydd yn y pen arnat ti. A chofia—gwrando be 'r ydw i'n 'i ddeud 'rwan—cofia ddangos pob parch i Mr. Huws pan ddaw o yma, a bod yn suful efo fo, ne fydd yn fychan gan dy dad dy roi di ar tân."
"Bydae o'n gneud hynny, fydde ene fawr o fat nac o golled i neb. Ond peidiwch â phryderu, 'mam. O hyn allan, yr ydw i am barchu pawb, a 'rwyf yn gobeithio na chewch chi na 'nhad le i gwyno 'y mod i'n amharchus o un creadur byw. 'Rydw i am lyfu'r llwch."