Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/113

Gwirwyd y dudalen hon

neb dy droi di os byddi di wedi cymryd at rwbeth. Mae gystal gen i ag wn i ddim be nad ydi dy dad yn dy glywed di. A 'rwyt ti wedi f'ypsetio i gymin fel na wn i yn y byd mawr sut i fynd cyn belled â'r London House, ac eto mae'n rhaid i mi fynd, achos 'roedden nhw'n deud y bydde'r ddres yn barod i'w ffitio fore heddiw. A bydase tithe yn rhwbeth tebyg i ti dy hun faswn i'n hidio dim ag ordro dres newydd i tithe, er nad oes mis er pan gêst un o'r blaen. Ond ni gawn weld tebyg i be fyddi di pan ddoi'n ôl. Gobeithio y byddi di wedi dwad atat dy hun, ac y caf weld tipyn o edifeirwch ynot ti. 'Rydw i'n mynd 'rwan, Susi—Susi, 'rydw i'n mynd."

"Purion, 'mam."

"Rheswm annwyl! beth yden ni fel teulu?" meddai Susi wrthi ei hun. "Mae 'mam neu fi wedi glân ddrysu. Wela i yn 'y myw ddim ond tlodi a gwarth o'n blaene ni. Mae'n rhaid 'y mod i wedi bod yn breuddwydio hyd heddiw. 'Roedd yn gas gen i bob amser glywed sôn am fusnes,' y farchnad,' y cwmpeini,' a phethe felly. 'Roedd yn boen i mi feddwl amdanynt. Pethe i ddynion oedden nhw, yn ôl 'y meddwl i. 'Y mhwnc i bob amser oedd byw, mwynhau fy hun, a gwisgo a chodlo. Mi wyddwn fod 'y nhad yn glyfar, a 'roeddwn i'n wastad yn credu ei fod yn gyfoethog. 'Rydw i wedi byw mewn balŵn, ac wedi dwad i lawr fel carreg. Ddaru mi 'rioed feddwl—ie, dyna lle 'roedd y drwg—ddaru mi 'rioed feddwl am bethe felly, na meddwl bod isio i mi feddwl. Ddaru fy meddwl i erioed ddeffro tan fore heddiw. Ond diolch i Dduw, yr ydw i'n credu fod gen i feddwl eto, fel rhw eneth arall. A rhyfedd na faswn i wedi golli o, a finne heb i ddefnyddio am gyd o amser! Ydi 'nhad yn ddyn gonest? 'Ddaeth y cwestiwn erioed i'm meddwl i o'r blaen, a 'dydi o ddim wedi dwad i feddwl 'y mam eto. Tybed ai fi sy'n methu dallt? Ai'r peth yr oeddwn i'n arfer 'i alw'n anonestrwydd ydi'r peth y mae eraill yn i alw'n fusnes? Wn i ddim beth ydi busnes. 'Roedd gen i idea mai rhywbeth syth, above board—rhywbeth