a than bost y gwely roedd Ned yn cadw'i gelc. Rodd o wedi bod wrthi am bymtheng wsnos, ac wedi casglu—'bygse fo—saith a chwech—hanner coron dan dri phost y gwely. Ond un diwrnod, ar ôl i'r wraig fod yn glanhau'r llofft, fe bowdrodd Ned i edrach oedd 'i gelc o'n sâff. Wel, i ti, mi gododd un post. 'Ho,' 'be Ned, ma'r hanner coron ene wedi mynd,' a mi â'th at y post arall, a 'roedd hwnnw wedi'i gloywi hi. Felly 'roedd y tri, a welodd Ned byth mo'u lliw na'u llun nhw. Ond mi fu 'no dipyn o row, fel y gelli di feddwl, a maen 'nhw'n deud i mi na fuon nhw byth 'run fath fel gŵr a gwraig, a bod Ned yn smocio mwy nag yrioed. Ie, 'dydi dyn ddim yn licio mynd â rhw dreifflach i'r banc, achos wrth 'i weld o'n mynd yn amal mi eith pobol i ddeud 'i fod o'n werth 'i filoedd, a mi fydd pawb yn mynd ato i ofyn benthyg, ac os daw hi'n binch ar y dyn 'i hun fydd ene ddim cydymdeimlad â fo. Ond dyma ddyn yn cadw mochyn mae o'n hel rhw dipyn i'w fol o deirgweth yn y dydd o leia, a dydi o'n gwbod fawr oddi wrtho, ac o dipyn i beth mae o'n dwad yn rhwbeth yn y diwedd. Maen 'nhw'n deud i mi ma dene sut y mae'r Gwyddelod ene'n hacio byw, ag y bydde'n well gynyn nhw fod heb hôm riwl nag heb gut mochyn. Ond mae llai o fagu moch gan bobol dlawd nag a fydde, yn enwedig yn y trefydd. A'r rheswm am hynny, meddan nhw, ydi fod y Locol Bord yn 'u stopio nhw, ac am fod bacwn y Merice mor rhad. Dene'r felltith fwya ddaeth erioed i'n gwlad ni ydi'r Locol Bord a bacwn y Merice—yn ôl y meddwl i. Ma'r Locol Bord yn stopio'r tlodion gadw mochyn, ac oherwydd hynny, dene lle maen 'nhw'n sychglemio ar hyd y flwyddyn, ac yn rhedeg i'r siop i nôl cnegwerth o facwn y Merice a chnegwerth o datws—yn lle bod, fel y bydde pobol es talwm, a dwy hog o datws yn 'r ardd a mochyn yn nhop y tŷ. Wn i am ddim sy'n porthi diogi gymin â'r Locol Bord. Es talwm, mi fydde dyn, ar ôl dwad o'i waith, a molchi, yn mynd i'r cae tatws, ne ynte i lanhau tan y mochyn. Ond i'r
Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/118
Gwirwyd y dudalen hon