Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/119

Gwirwyd y dudalen hon

tafarne y ma'r bobol yn mynd rwan. A chlywi di byth sôn y dyddie yma am swper tir tatws.' A'r cwbwl i gyd o achos y Locol Bord. Be ddeudest ti?—er mwyn cadw'r ffefars i ffwrdd? Lol i gyd! Ma nhw'n deud os bydd cut y mochyn o fewn pum llath i'r tŷ y bydd y ffefar yn bownd o ddwad, ond os bydd y cut bum llath a dwy fodfedd oddi wrth y tŷ y bydd pawb yn saff! Glywest di erioed siarad gwirionach yn dy fywyd?"

Ond yr wyf yn crwydro. Y ffaith oedd fod agos bob un o weithwyr Pwll y Gwynt yn magu mochyn ac yn plannu tatws. Mae'n syndod meddwl ar cyn lleied o arian y mae llawer o weithwyr Cymru wedi gallu byw a magu teuluoedd lluosog. Mewn llawer amgylchiad yr oedd nifer y geneuau ymron yn gyfartal i nifer y sylltau a enillid mewn wythnos gan y penteulu. Nid oeddynt yn llwgu, nid oeddynt yn noethion. Yn wir, yr oeddynt fel teulu yn gallu dyfod yn daclus i'r capel; ac nid hynny yn unig, ond yn gallu rhoi ychydig at yr achos. Pa fodd yr oeddynt yn gallu gwneud hynny—y nefoedd fawr a ŵyr! Rhaid bod eu hanghenion anhepgor yn fychain iawn, a'n bod ni y dyddiau hyn yn gwario llawer am bethau y gellir gwneud hebddynt.

Gyda chyflogau truenus o fychain, yr oedd mwynwyr Pwll y Gwynt wedi gallu byw, magu plant, a rhoi chydig ysgol iddynt. Eglur yw na allai'r rhai mwyaf darbodus roddi dim o'r neilltu ar gyfer diwrnod glawog. Fel yr aderyn sy'n byw o ddydd i ddydd heb ddim darpariaeth ar gyfer yfory, yr oeddynt hwythau yn byw o sist i sist, a phan safodd Pwll y Gwynt yr oedd eu tlodi a'u trueni yn fawr arnynt. Er bod y cyfyngder wedi dyfod ar y nifer mwyaf o'r gweithwyr yn hollol ddiddisgwyl, nid oedd rhai o'r hen ddwylo heb weled yn eglur na allai unrhyw Gwmni ddal i wario arian yn barhaus heb dderbyn ond y nesaf peth i ddim yn ôl. Heblaw hynny, yr oedd gan Capten Trefor ei gymeriad a'i enw da i'w gadw, ac yr oedd wedi cymryd rhai o'r gweithwyr mwyaf profiadol i'w gyfrinach ers tro.