Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

newid fy meddwl. Nid yw cau'r llygaid yn un arwydd o santeiddrwydd. A chwarae teg i Abel Huws, ni chaeai yntau ei lygaid ond pan fyddai yn yr hwyl. Yr oedd mor llygadog â neb, ac yn galw pethau wrth eu henwau priodol. Sicr fod Abel Huws, fel yr hen dadau, dipyn yn rhy blaen ei siarad; ond mae lle i ofni mai'n perygl ni yw peidio â galw pethau wrth eu henwau Cymraeg, os nad peidio â'u henwi o gwbl. A ydyw'r pethau wedi peidio â bod? Neu a ydym wedi cael rhyw oleuni newydd arnynt? A oes y fath beth ag anniweirdeb? Byddwn yn clywed weithiau am "achos anhyfryd." Ond diau fod y byd yn dyfod yn foneddigeiddiach, a bod eisiau cymryd gofal sut i siarad ag ef.

Nid oedd, fel y dywedwyd, ond un yn disgwyl am Enoc i'r byd, ac nid oedd ar neb ei eisiau. Ni wyddai Enoc, druan, mo hynny, a phe gwybuasai, mae yn amheus ai ni buasai'n cyflawni hunanladdiad yn hytrach nag wynebu ar y fath fyd. Ond ei wynebu a wnaeth Enoc yn hollol ddiniwed a diamddiffyn. Tystiai'r meddyg ei fod yn un o'r bechgyn brafiaf a welodd erioed, ac nad oedd ond un amherffeithrwydd ynddo, sef bod tri o fysedd ei droed chwith yn glynu yn ei gilydd, fel troed hwyaden. Ond nid oedd hynny nac yma nac acw. Cyn bod Enoc yn fis oed-pe buasai'n ddigon synhwyrol, a phe na buasai'n cysgu yn hapus wrth ochr ei fam— gallasai fod yn llygad-dyst o olygfa na buasai byth yn ei hanghofio.

Yr oedd yr ystafell wely yn eang a chymfforddus, peth a ddynodai fod ei pherchen mewn amgylchiadau uwch na chyffredin. Nos Sadwrn ydoedd, neu yn hytrach fore Sul, oblegid yr oedd y cloc newydd daro hanner nos. Yr oedd y meddyg newydd adael yr ystafell gan fwriadu dychwelyd yn fuan â rhyw feddyglyn i gynorthwyo mam Enoc i groesi'r afon, mewn geiriau eraill, i farw. Cyn gadael y tŷ dywedasai wrth ei thad, oedd ŵr uchel-falch: "Mi ddof yn ôl ymhen ychydig funudau, Mr. Davies, ond y mae arnaf ofn na wěl Elin. druan,