fy ffordd fy hun, mi fuaswn wedi gwneud fel hyn ac fel hyn." Ac yna awgrymai'r Capten ryw gynlluniau cyffelyb i'r rhai y clywsai fod Sem yn eu gwyntio. "Ond waeth tewi, Sem, mae gen innau fy meistar, ac os fel hyn y mae'r Cwmni yn dewis gwneud, eu look out nhw ydyw hynny. Ond mi ddywedaf hyn, nid oes dim posib cario 'mlaen fel hyn yn hir."
"Ddaru chi 'rioed, Capten, ddeud mwy o wir, a 'rydw i wedi deud 'run peth laweroedd o weithiau, mae'r dynion yn gwybod. A mae o'n andros o beth, Capten, na châi dyn fel chi, sy'n gwybod sut i weithio mein, ei ffordd ei hun."
"Sut bynnag, Sem, felly y mae pethau."
Ar achlysuron penodol, proffwydai Sem yn ddoeth am ddiwedd buan Pwll y Gwynt, ac eglurai'r rheswm am hynny—sef na allai'r Capten gael ei ffordd ei hun. Pan safodd Pwll y Gwynt nid oedd neb yn rhoi'r bai am hynny wrth ddrws Capten Trefor. Dywedai Sem Llwyd, ac eraill, erbyn hyn, fod y Capten wedi eu rhybuddio, a phe cawsai'r Capten ei ffordd ei hun y buasai popeth yn dda.
Y Cwmni yn Llunden oedd yr achos o'r holl ddrwg. Ac fel hyn yr oedd y Capten, er ei fod wedi colli ei gyflog, wedi llwyddo i gadw ei enw da ymhlith ei gymdogion. Credai'r ardalwyr yn lled gyffredinol pe cawsai'r Capten ei ffordd ei hun y buasai Pwll y Gwynt yn fforddio gwaith cyson am oes neu ddwy o leiaf. Aw—grymai'r Capten wrth y rhai y digwyddai ymddiddan â hwy fod" dialedd o gyfoeth "wedi ei adael yn yr hen Waith, ac o dipyn i beth yr oedd y mwynwyr eu hunain, oedd wedi bod flynyddoedd yn chwilio am y plwm heb ei gael, wedi dyfod i gredu'r un peth, ac ymhen ychydig amser tystiai ambell un o'r hen weithwyr fod ym Mhwll y Gwynt "blwm fel gwal," yn gorwedd, erbyn hyn, dan y dŵr! Edrychid ar Capten Trefor fel merthyr, ac oni bai fod y mwynwyr mor dlawd buasent yn gwneud tysteb iddo. Gan na allent hynny, bu raid iddynt fodloni ar felltigo Cwmni Llunden, a rhoi eu goglyd