PENNOD XX
Doethineb Sem Llwyd
MI gredaf fod Sem Llwyd cystal teip o'r mwynwr ag a gyfarfûm i erioed. Yr oedd yn fyr ac eiddil o gorff—ei wyneb yn felyn—llwyd a thenau—ei gefn yn crymu tipyn—ei fynwes yn bantiog, a'i anadl yn brin ac afrwydd—yntau'n pesychu'n dost—yn ysmocio o getyn byr—yn bwysig, gwybodus, a hunan—ddoeth, ac yn hen ŵr, o ran yr olwg, cyn cyrraedd ei drigain mlwydd oed. Yr oedd gan Sem doreth o wallt llwytgoch, nad oedd yn llaes, ond y gellid tybio na phrofodd erioed fin y siswrn, ond a ddeifid bob gaeaf gan y gwynt a'r rhew, yr un fath â'r gwrychoedd. Yr oedd ei lais yn gras—gryf, anghymesur, fel pe na buasai'n perthyn iddo ef ei hun, neu fel pe buasai wedi ei etifeddu yn ôl ewyllys rhyw berthynas ymadawedig, yr un fath â'r gôt a wisgai ar y Sul, oedd yn rhy fawr iddo o lawer. Oni bai y gwyddid yn sicr beth oedd oedran Sem, buasid yn tybied mai rhywun ydoedd o'r cynoesoedd a adawyd gan angau fel un rhy ddiwerth i'w gynhaeafu. Cofus gennyf fod rhyw syniad ffôl yn fy meddwl mewn perthynas i Sem—sef na fyddai farw, ac mai adfeilio o dipyn i beth a wnâi nes cyrraedd diddymdra. Yr oedd Sem yn hoff iawn o gymdeithas—nid yn gymaint er mwyn derbyn ag er mwyn cyfrannu addysg, ac fel pawb o'r hil ddynol, hoffai ymweled â'r teuluoedd a chymdeithasu â'r bobl a edmygai fwyaf ei ddoethineb. Tra'r oedd Pwll y Gwynt yn mynd," nid oedd Sem yn brin o gyfleusterau i ysgafnhau ei fynwes, er y byddai ymhlith ei gydweithwyr yn wyliadwrus iawn fel y dywedwyd eisoes. A pho fwyaf a fyddai'r newyn am wybodaeth, dyfnaf yn y byd y ceisiai Sem roi'r argraff fod digon o ŷd yn ei Aifft ef ei hun. Byddai hyn, weithiau, yn brofoclyd iawn, oblegid pan amlygid chwilfrydedd mwy na chyffredin am wybod rhywbeth, rhoddai Sem awgrymiad digamsyniol y gallai pe buasai'n dewis roddi'r holl wybodaeth a ddymunid, ac yna syrthiai