rheoli nhw, a'r rhai hynny 'n amal na wyddan nhw ddim mwy na chithe am waith mein. A chyda golwg ar Capten Trefor mi ddeuda hyn na welis i neb erioed—a 'rydw i wedi gweld llawer—y sydd gystal meistr ar 'i waith. Fe ŵyr i'r dim sut i weithio gwaith mein, pe cai o'i ffordd 'i hun, a mae'r Capten a finne bob amser o'r un meddwl."
"Mae'n well gen i," ebe Thomas, "i chi fod o'r un meddwl â fo, na fi. Rhyngoch chi a fi, licies i 'rioed mo'r dyn. 'Wnaeth o 'rioed ddim byd i mi, ond edrach dipyn yn sgiwedd arna i, ond dda gen i mono, waeth gen i bydae 'i ddwy glust o'n clywed. Rhw ŵr bonheddig heb 'run stad ydw i'n i weld o. Mi weles ambell un o'i sort yn f'oes—dynion yn mynd ar gefn 'u ceffylau ar gost y cwmpeini, ac yn dwad i'w clocsie yn y diwedd. Peth arall, licies i 'rioed mo'r dyn yn y capel; mae o'n dwad yno fel bydae o'n gneud ffafar i'r Brenin Mawr, ac, fel bydae, y torre'r Brenin Mawr i fyny bydae o'n cadw oddno. 'Dda gen i mo'r sort, Sem. Mae isio i ni gyd fod 'run fath yn y capel, a phawb i'w le ar ôl mynd allan. A pham na weddïe'r dyn? dyn gwbodus a thafodog fel fo? Ond welis i 'rioed mo'r dyn ar 'i linie, a mae hynny'n ddigon o brŵff gen i fod rhwbeth y mater efo cydwybod y dyn, achos 'dydi o ddim yn nerfus, mi ŵyr pawb hynny. Gewch chi weld, Sem, os byddwn ni byw ac iach, y cawn ni weld y dyn ene wedi colli 'i blu."
"Thomas," ebe Sem, "'rydw i'n synnu atoch chi'n siarad fel ene am ddyn parchus fel y Capten—dyn sy wedi gwneud cymin i'r ardal yma. Be ddeuthe ohonom ni 'blaw am ddynion fel Capten Trefor? Mi fasen wedi llwgu."
"Llwgu ne beidio, Sem," ebe Thomas, "'rydw i'n mawr gredu y base'n gwlad ni yn well off o'r hanner heb rw wag ladron fel ene sy'n byw ar foddro a thwyllo poblach ddiniwed ar hyd y blynyddoedd. Ond mi rown stop arni yn fan ene, Sem, ne mi awn i ffraeo.