"Digon tebyg, wir, Sem, achos pan ddeudith rhwfun rwbeth wrtha i, ac yn enwedig os deudan nhw wrtha i am beidio â deud hynny wrth neb arall, mae o'n dechre llosgi yn 'y mrest y munud hwnnw."
"Piti mawr ydi hynny, Thomas," ebe Sem. "A chyda golwg ar y peth yr yden ni wedi hintio ato, mi ddeuda hyn: mai'r rhai sy'n gwbod lleiaf am y peth sydd yn siarad yn fwya ffri yn 'i gylch, a'r rhai sy'n gwbod y cwbwl sy'n deud dim."
"Ho!" ebe Thomas.
"Be bydae ni'n deud fel hyn, 'rwan," ebe Sem, "mae Enoc Huws yn un sydd wedi gwneud llawer o arian, a mae arno angen am wraig. Mae Miss Trefor yn ferch ifanc sydd wedi cael addysg dda, a fydde raid i neb fod â chwilydd ohoni. Purion. Be bydae'r ddau'n priodi, be fydde gan neb i'w ddeud am hynny? Ne be bydae ni'n deud fel hyn na ddaru Enoc Huws erioed feddwl am Miss Trefor na hithe amdano yntau. Be fydde hynny i neb arall? Ydech chi'n 'y nallt i, Thomas?"
"Digon prin yr ydw i'n ych canlyn chi, Sein. Ai deud yr ydech chi nad oes dim byd yn y peth?" gofynnai Thomas.
"'Ddeudes i ddim ffasiwn beth, Thomas," ebe Sem.
"Ho," ebe Thomas, "deud yr ydech chi, ynte, fod rhwbeth yn y stori?
"'Ddeudes i ddim o'r fath, Thomas, a pheidiwch â deud wrth neb 'y mod i wedi deud ffasiwn beth," ebe Sem.
"Give it up, ynte," ebe Thomas. "Ond deud y gwir yn ych wyneb chi, Sem, yr ydw i'n licio'ch sgwrs chi yn anwêdd bob amser, ond yr ydw i'n medru dallt pawb, 'rwsut, yn well nag yr ydw i'n ych dallt chi, Sem. 'Wn i ddim be ydi'r achos o hynny, ond dene'r gwir amdani. Mi wn 'y mod i'n ddwl, siampal."
"Wel," ebe Sem, "be bydae ni'n edrach ar y peth fel hyn, ynte: mae gan Enoc Huws arian—'does neb