mentro, achos er mor dda y mae o wedi gwneud, fyddeʼr hen Drefor fawr o dro yn lluchio 'i bres o i gyd i lawr siafft gwaith mein, na wele fo byth 'u lliw na'u llun nhw, 'run fath ag y gnath o efo pres Hugh Bryan, druan. Wyddoch chi be, Sem, 'rydw i'n cofio Hugh cystal off â neb yn y fan yma, cyn iddo fynd i grafanc yr hen Drefor." "Peth garw iawn, Thomas," ebe Sem, "ydi i ddyn siarad am rwbeth allan o'i lein. 'Dydw i'n ame dim, Thomas, nad y chi ydi'r crydd gore yn y wlad yma, ac fel judge ar fochyn, mi wn na churith neb monoch chi. Ond y mae gwaith mein allan o'ch lein chi, mi 'newch adde hynny, Thomas?"
"Be haru chi ddyn?" ebe Thomas, gan godi tipyn ar ei lais. "Ond oedd gen i chwarter owns o waith y Top, ag oni waries i bump punt ar hugen yno na welis i byth wyneb y delyn ohonyn nhw, heblaw be waries i am ddiod! Oni fydde gynnon ni gyfarfod yn y Brown Cow bob nos Lun cynta o'r mis i edrach dros bethe ac i dalu'r arian, a hyd i'r noswaith ddwaetha yr oedd y meinars yn dweud ar 'u gwir fod yno well golwg ar y Gwaith nag a fu 'rioed, ag y bydde ni i gyd yn fyddigions, a finne fel ffŵl yn talu am rownd wrth feddwl mor gyfoethog fyddwn i. Yr hen geriach!"
"Thomas," ebe Sem, gan godi ar ei draed i ymadael, "ddeudes i ddim gantodd o weithie na chaech chi ddim plwm yng Ngwaith y Top?"
"'Doeddech chi, Sem," ebe Thomas, ddim yn gweithio yn y Top nac yn cyfarfod yn y Brown Cow. Bydase chi yn un ohonyn nhw, 'does neb ŵyr be fasech chi'n 'i ddeud. Ond 'dawn ni ddim i ffraeo. Ydech chi ddim am 'i chychwyn hi mor gynnar, ydech chi, Sem?"
Ydw, Thomas, mae hi'n dechre mynd yn hwyr," ebe Sem.
"Wel, brysiwch yma eto," ebe Thomas, gan agor y drws, ac wedi edrych allan, ychwanegodd, Be neith hi heno, 'ddyliech chi, Sem, ai rhewi?"