Dafydd yn grefyddol, nid oedd yn ddim yn y byd, y truanaf o'r holl greaduriaid ydoedd. Yr oedd yn gul, fel y dywedwyd, ond nid yn sarrug. Yr oedd ei grefydd wedi ei wneud yn sad mewn mwyneidd-dra. Ni welais mohono erioed yn chwerthin ond gyda deigryn yn ei lygaid, a hynny o dan y pulpud. Fel yr wyf yn heneiddio, ac yn fy oriau mwyaf prudd, byddaf bron yn meddwl mai bywyd fel yr eiddo Dafydd Dafis ydyw'r unig fywyd gwerth ei fyw, ond i'r dyn â'r meddwl iach, effro, dichon mai bywyd hunanol yr ymddangosai un fel yr eiddo Dafydd Dafis. Hen lanc oedd ef, ac efallai fod yr elfen hunanol yn ymddatblygu yn ddiarwybod i'w pherchen ym mywyd dyn sengl. O ran hynny, onid hunan sydd yn llywodraethu pob dyn, ond ei fod yn gwisgo gwahanol weddau?
Ond yr wyf yn crwydro. Cysurus gan Eglwys Bethel oedd cofio na châi'r cyfarfodydd wythnosol, megis y seiat a'r cyfarfod gweddi, ddioddef rhyw lawer tra byddai Dafydd Dafis yn fyw.
Ni byddai'r blaenor arall, Alexander Phillips (Eos Prydain), ond anfynych yn y cyfarfodydd hyn. Yn ei gylch ei hun fel dechreuwr canu, ac fel un oedd yn gofalu am lyfrau'r eglwys, yr oedd yr Eos yn gampus. Ond prin y gwelid ef unwaith yn y chwarter yn y seiat a'r cyfarfod gweddi. Ar y Sul, byddai fel un yn lladd nadredd, neu'n bwrw pridd ar gorff fel y dywedir. O'r braidd y cymerai hamdden i fwyta. Byddai ganddo gyfarfod canu am un o'r gloch y prynhawn, ac am bump o'r gloch, ac un wedyn ar ôl oedfa'r nos, ac yr oedd mwy o sŵn yn ei dŷ nag oedd yno o lestri gweigion. Un o'r pethau a roddai fwyaf o fodlonrwydd meddwl a thawelwch cydwybod i'r Eos wrth edrych yn ôl, oedd ddarfod i gôr Bethel o dan ei arweiniad ef ganu "Vital Spark" yn effeithiol ar ôl marw Rhys Lewis. Os rhaid dweud y gwir, yr oedd yr Eos a'i gôr, â rhagwelediad canmoladwy, wedi bod yn ymarfer rai misoedd cyn marwolaeth y gweinidog. Nid yn y capel, wrth gwrs,