Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/149

Gwirwyd y dudalen hon

ddwyn o flaen yr eglwys, ac a wyddoch chi rywbeth o hanes y gŵr?"

"Y cwbwl a wnes i," ebe'r Eos, "oedd siarad yn gyffredinol am ein sefyllfa fel eglwys, ac am yr angen yr oeddym ynddo am rywun i'n bugeilio. A mi ddigwyddais hefyd ofyn i Mr. Simon a oedd yn agored i dderbyn galwad pe buasai un o eglwysi'r sir yn meddwl amdano."

"Ddaru chi ddim ych comitio'ch hun, na rhoi un math o addewid ynte, Phillips?" gofynnai Dafydd.

"Dim o'r fath beth," ebe'r Eos.

"Mae'n dda gen i glywed hynny," ebe Dafydd.

"Mae'n dda gen innau," ebe Didymus, " achos 'ddyliwn. mai'r rheol ydyw, os bydd blaenor wedi rhoi ei air i bregethwr y dewisir ef yn fugail, fod yr eglwys, fel mater o anrhydedd, yn rhwym o gynnal i fyny air y blaenor. Ac y mae hynny yn eithaf rhesymol, oblegid os ymddiriedir i'r blaenor ddewis pregethwr ar gyfer pob Sabboth, ac os ydyw yr eglwys a'r gynulleidfa, wrth ddyfod i wrando'r pregethwr, megis yn codi eu llaw i ddangos eu cymeradwyaeth o'i ddewisiad, paham hefyd na ellir ymddiried i'r blaenor ddewis y bugail? Ar yr un pryd yr wyf yn credu y dylai'r blaenor, wrth ddewis bugail, fod in touch efo pob chwaeth yn yr eglwys. Yn awr, a chaniatáu fod Mr. Simon yn ŵr ymadroddus, ac yn fedrus ar gadw seiat, nid wyf yn meddwl y rhown i fy vote iddo, os nad ydyw'n gerddor gweddol."

Edrychodd yr Eos am foment yn wyneb Didymus, i'w sicrhau ei hun a oedd yn peidio â bod yn cellwair, a chan nad oedd gewyn yn symud i arwyddo dim amgen na'r difrifwch mwyaf, atebodd yr Eos yn hoyw:

"Cerddor gweddol!—gallaf eich sicrhau bod Mr. Simon yn gerddor campus. Cefais ymgom hir ag ef ar gerddoriaeth gysegredig, ac ni welais bregethwr erioed mor gyfarwydd yn y pwnc. Yr oedd canu Bethel wedi ei foddhau yn fawr, ac yr oedd yn dweud ei fod wedi bod yn help iddo bregethu, a ches ambell awgrym ganddo sut i'w