"Hwyrach hynny, wir," ebe'r Eos, " ond dyna oeddwn i braidd yn 'i ofni, fod Mr. Simon yn rhy foneddigaidd i ni—bobl Bethel.".
"'Does dim rhy foneddigaidd i fod," ebe Didymus drachefn.
Wel, dyna ydw i'n 'i feddwl wrth ddweud ei fod yn rhy foneddigaidd yr oedd o rywfodd yn diolch gormod gen i. 'Daswn i ddim ond yn estyn y pot mwstard iddo, neu yn ei helpio i roi ei gôt ucha amdano, yr oedd o'n deud, "Thank you," ebe'r Eos.
"Very good"—arwydd o good breeding," ebe Didymus. Ddaru chi ddim sylwi, Phillips, i Mr. Simon roi rhywbeth yn llaw'r forwyn cyn mynd i ffordd?"
"Weles i mono'n rhoi dim iddi," ebe'r Eos.
"Mi wyddwn hynny," ebe Didymus, "fydd yr un boneddwr yn gadael i nêb ei weld yn rhoi dim i'r forwyn, ond gofynnwch chi iddi pan ewch adref, a mi gewch, 'rwy'n siŵr, ei fod wedi rhoi chwech neu swllt iddi."
Synnwn i ddim," ebe'r Eos. "A chyda golwg ar y peth arall yr oeddech chi'n 'i ofyn—a oedd o'n ofalus o'i ymddangosiad—yr oedd, meddai, yn shafio bob bore Sul, a 'rydw i'n cofio, wrth i ni fynd i oedfa'r nos, pan oedden ni wedi mynd cyn belled â siop Start, y druggist, i Mr. Simon gofio ei fod wedi gadael ei fenyg ar y bwrdd yn y tŷ, ac er ein bod dipyn ar ôl yr amser, fe fynnodd fynd yn ôl i'w cyrchu. 'Roeddwn i braidd yn ddig wrtho am hynny. Ac yr ydw i'n cofio hefyd iddo wneud y sylw fod un diffyg yn festri'n capel ni—sef nad oedd yno yr un glass, crib, a brws gwallt."
"Dafydd Dafis," ebe Didymus, gwnewch note o 'nyna, 'dydw i ddim wedi nodi'r diffyg yna ers talwm? Ond gadewch i ni fynd ymlaen. Mor hawdd ydyw camfarnu dyn o bell. Mae Mr. Simon yn amgenach dyn o lawer nag y tybiais i ei fod. Yr ydych chwi, Phillips, wedi cael mantais i'w 'nabod yn drwyadl. Goddefwch i mi ofyn cwestiwn neu ddau arall—a chadw mewn cof