Deallodd y landlord fod Dafydd yn sôn rhywbeth am repairs; crafodd ei du mewn am hynny o Gymraeg a feddai, a gwaeddodd yn ffyrnig:
"Pam chi Sasneg, Dafydd?"
"Pam chi Cymraeg, syr?" atebodd Dafydd.
Pan welodd y meistr tir mai ofer iddo faldordd iaith na ddeellid gan ei denant, ysbardunodd ei geffyl glas ac ymaith ag ef. Dychwelodd Dafydd i'r tŷ yn ddigyffro. Gwaeddodd yng ngwaelod y grisiau: "Mary, tyrd i lawr at y 'menyn yma, 'nei di."
Be 'roedd y dyn yn sôn am ei dai wrtha i? be wn i am ei dai o?" ebe Dafydd.
"Nid' tai 'oedd o'n ddeud, fewyrth, ond tithe'—y degwm, wyddoch," ebe Mary.
"O!" ebe Dafydd, "ond hidia befo."
Dywedais mai camgymeriad a fuasai galw Dafydd Dafis yn ddyn dwl; ond yr oedd dodrefn ei feddwl nid yn annhebyg i ddodrefn ei dŷ. Yr oedd y "pethau heb ond ychydig gyfnewidiad yno ers oes—yr hen setl wrth y tân—yr hen dreser a'r platiau piwtar arni—yr hen gadeiriau, a'r bwrdd mawr wrth y ffenestr, oll yn dderw cadarn. Yr unig ddernyn ag yr oedd amser yn gadael ei ôl arno ydoedd yr hen gloc wyth niwrnod. Yr oedd "tipyn o natur colli ynddo," meddai Dafydd.
Yr oeddwn yn ofni fod Didymus wedi ei ddigaloni, ac euthum yno. Noswaith seiat ydoedd, ac yr oeddwn yn y Tŷ Coch cyn i Dafydd ddychwelyd. Canfûm ei fod mewn ysbryd rhagorol, ac er mwyn taro ar ei hoff bwnc, dywedais:
"Mi welaf, Dafydd Dafis, eich bod yn parhau i fynd i'r seiat."
"Ydw, debyg, a mi fydde'n burion i tithe ddwad yno'n amlach nag 'rwyt ti," ebe fe.
"Chwi wyddoch," atebais, "am f'amgylchiadau—anodd iawn i mi—yn enwedig ym misoedd yr haf—adael y siop am saith o'r gloch a mynd i'r capel, heb wneud cam â mi fy hun. Hawdd iawn i chwi'r ffermwyr,