hwy eu hunain—yn berffaith hunan—ddigonol a hapus eu meddyliau—heb ddangos wyneb unwaith yn y flwyddyn mewn cyfarfod gweddïo na seiat. Ac y mae amryw ohonynt wedi cyrraedd yr ystad honno o berffeithrwydd fel y gallont, heb deimlo niwed na cholled, hepgor oedfa bore Sul. Ac os cynyddant mor gyflym yn y dyfodol—ac y mae pob lle i gredu y gwnânt—gallant yn fuan iawn wneud heb unrhyw foddion o gwbl—yn unig anfon eu cyfraniadau efo Sali'r forwyn. Yr wyf yn cenfigennu atynt!"
"Yr ydech yn siarad yn gas, Dafydd Dafis," ebe fi. "Mi wn fod dau feddwl i'ch geiriau. Ond arhoswch; yr wyf yn bur sicr fy meddwl fod amryw o'r rhai y cyfeiriwch atynt yn gofidio yn fawr am na allant ddilyn moddion canol yr wythnos."
"Wel," ebe fe, " gan dy fod yn un ohonyn nhw, yr wyt yn debycach o wybod eu meddyliau na fi."
"Arhoswch! 'does bosib," ebe fi, "eich bod yn fy rhoi i ymhlith y dosbarth yr oeddech yn ei ddarlunio yrwan? Mi fyddaf yn mynd i'r seiat yn achlysurol, ac ni bûm erioed mewn seiat ac edifarhau am fynd. Ond goddefwch i mi ofyn i chwi, a pheidiwch â meddwl fy mod yn awgrymu dim wrth ei ofyn—a chymryd popeth i ystyriaeth cyfnewidiadau yr amseroedd—y cynnydd mewn manteision addysg—mewn diwylliant a moesoldeb—gymaint mwy gwybodus ydyw ein cynull—eidfaoedd, a chymaint uwch ydyw sefyllfa fydol llawer o'n haelodau eglwysig—a ydech yn meddwl fod y seiat y peth i ni yn y dyddiau hyn?"
Edrychodd Dafydd Dafis arnaf mewn mudandod, fel pe buasai'n petruso. Edrychodd arnaf drachefn a thrachefn, yna llwythodd ei bibell. Perthynai iddo y gwendid hwnnw, a phan fyddai rhaid arno feddwl yn galed, trôi at y bibell am gynhorthwy. Ymsythodd ychydig yn ei gader, ac ebe fe:
"Mae'r amseroedd, chwedl tithe, wedi newid yn fawr hyd yn oed o fewn fy nghof i fy hun—er gwell mewn