Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/163

Gwirwyd y dudalen hon

bocs, o flaen y fainc, a hynny mewn ffug, am y gŵyr mai yno y dylai fod. Temtasiwn un ydyw, ceisio hedeg yn uchel heb esgyll, a themtasiwn y llall ydyw, ei berswadio ei hun ei fod yn llyfu'r llwch, ac yntau yr un pryd yn ddigon cefnsyth. Pechod parod i amgylchu'r naill a'r llall ydyw peidio â bod yn onest.

"Mi ddwedais fod gan bob dyn brofiad, ond rhaid i mi alw'r geiriau yn ôl. Mae'n wir mewn un ystyr, ond nid yn wir yn yr ystyr grefyddol i'r gair. Os gall dyn fyw am wythnos heb deimlo gofid oherwydd ei bechod a'i ddiffygion—heb fod mewn ymdrech ag amheuon—heb i ddirgelwch ac amcan ei fodolaeth groesi ei feddwl—a heb i ofnadwyaeth y dyfodol ymyrryd dim â'i fyfyrdodau prin y gellir dweud bod gan y dyn hwnnw brofiad o gwbl, mewn ystyr grefyddol—mae'n perthyn i'r un dosbarth â'r bydol—ddyn di-Dduw. Ond fy mhwnc ydyw hyn—mae'r seiat, yn ôl fy meddwl i, yn sefydliad hynod fanteisiol, nid yn unig i wrando profiad, ond hefyd i'w greu a'i feithrin. Yr un peth ydyw argyhoeddiad o bechod yn awr ag ydoedd gant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Mae'r un gwahaniaeth hanfodol yn bod yn awr, fel bob amser, rhwng dyn duwiol a dyn annuwiol. Hwyrach nad ydyw'r gwahaniaeth lawn mor amlwg ag y bu. Mae'r dyn digrefydd wedi dyfod i fucheddu yn debycach i'r dyn crefyddol, a'r dyn crefyddol, yn rhy fynych, yn bucheddu yn debycach i'r dyn anghrefyddol. Mae lle i ofni, mewn llawer amgylchiad, fod rhyw fath o fargen wedi ei tharo rhwng y byd a'r eglwys. Mae tröedigaethau hynod, ysywaeth, erbyn hyn, yn anaml, a bod o fewn ychydig i fod yn Gristion yn ffasiynol. Mae hyn, o angenrheidrwydd, wedi rhoi gwedd wahanol ar ein cyfarfodydd eglwysig. Rhai wedi eu dwyn i fyny er yn blant gyda chrefydd ydyw mwyafrif mawr ein haelodau, a chan amlaf, rhai na allant gyfeirio at unrhyw hanner dydd ar y ffordd i Damascus. Ac y mae'r rhai a ddychwelir o'r byd, oherwydd eu bod yn flaenorol, fel rheol, ymhlith ein gwrandawyr cyson, ac yn ddynion