Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/165

Gwirwyd y dudalen hon

mai gwell ganddynt fod yn ddistaw, oddieithr fod rhyw reswm neilltuol yn galw am hynny. Rheswm arall, mae'n debyg, ydyw diffyg gwroldeb ynom ni, y swyddogion, i wneud ein dyletswydd tuag at yr aelodau. Dylid rhoi ar ddeall y disgwylid i bob aelod, hyd y mae ynddo ef, fynd i'r seiat o leiaf yn achlysurol os nad yn gyson, ac nad ystyrid y rhai sy'n esgeuluso'n wirfoddol, mwyach yn aelodau o gwbl. Ond y rheswm pennaf, yn ddiau, fod cyn lleied yn dyfod i'r cyfarfod eglwysig ydyw, diffyg chwaeth grefyddol, os nad diffyg hollol o grefydd. Mae'r byd rywfodd, erbyn hyn, wedi cael y llaw uchaf arnom. Yr ydym wedi ffurfio a llunio ein hamgylchiadau fel nad ydyw'n bosibl i grefydd gael chware teg. Rhaid edrych. ar ôl yr amgylchiadau, fel yr oeddit ti'n dweud, ond yr wyf yn meddwl bod yn bosibl eu trefnu yn well. Mae nifer o'n pobol ifainc dan gaethiwed oriau masnach, fel na allant ddyfod i foddion canol yr wythnos pe dymunent. Ni ddylai'r pethau hyn fod felly. Crefyddwyr, mewn enw, ydyw'r nifer mwyaf o fasnachwyr trefi Cymru; a phe byddai tipyn o ynni ynddynt, gallent gael gan bawb gau eu siopau fan hwyraf am saith o'r gloch. Yr ydym yn rhy fydol i ddweud nos dawch wrth y byd am saith o'r gloch, a thra parhao pethau fel hyn, nid ydyw 'n bosibl i gyfarfodydd crefyddol gael chware teg. A phwy bynnag a ddaw yma fel bugail, pa un ai Mr. Obediah Simon ai rhywun arall, os na all ddwyn oddi amgylch ddiwygiad yn y peth yma, fe fydd ei lafur yn ofer."

Ni chynigiais un wrthddadl yn erbyn yr hyn a ddywedai Dafydd Dafis, am nad oeddwn yn dewis ei flino, a hefyd am fy mod yn cydweled â llawer o'r hyn a ddywedai.